Môr
Oddi ar Wicipedia
Lle eang o ddŵr hallt yw môr. Mae cefnfor yn ehangach na môr.
Cilfach fôr gyda thir ar hyd at dair ochr iddi yw bae. Trwyn o dir gyda môr ar ddwy neu dair ochr iddi yw pentir neu benrhyn. Tir gyda môr o'i gwmpas yw ynys.
Mae'n bosib teithio'r môr ar long a chael bwyd o'r môr, er enghraifft pysgod, pysgod cragen neu wymon.
Rhestr Cefnforoedd a Moroedd [golygu]
Golygfa ar y môr yng Ngwlad Thai
- Cefnfor Iwerydd
- Y Môr Baltig
- Y Môr Caribî
- Y Môr Canoldir
- Môr y Gogledd
- Môr Iwerddon
- Y Môr Celtaidd Môr Hafren (Sianel Bryste), Môr Udd (y Sianel)
- Môr Labrador