Manannán mac Lir

Oddi ar Wicipedia
Cerflun yn Swydd Clare, Iwerddon.

Duw y môr ym Mytholeg Iwerddon yw Manannán mac Lir; yn cyfateb i Manawydan fab Llŷr ym Mhedair Cainc y Mabinogi yng Nghymru. Cysylltir ef a'r Arallfyd ac a'r tywydd. Cysylltir ei enw ag enw Ynys Manaw. Mae'n fab i Lir, duw y môr. Fel rheol ystyrir ef yn un o'r Tuatha Dé Danann, er fod llawer o ysgolheigion yn ystyried ei fod yn perthyn i draddodiad hŷn.

Ymddengys Manannán mac Lir mewn nifer o chwedlau traddodiadol Iwerddon, er mai rhan ymylol sydd ganddo yn y rhan fwyaf. Yn y Táin Bó Cúailnge, enwir ei wraig fel Fand; mae chwedlau eraill yn enwi ei wraig fel Áine. Roedd ganddo ferch Níamh Chinn Óir (Nia Ben Aur). Yn ôl un chwedl, roedd Lugh yn fab maeth iddo.

Yn yr Immram Brain ("Mordaith Bran"), mae'r arwr Bran maic Febail a'i gymdeithion ar fordaith i geisio darganfod ynys hud. Ar ôl deuddydd ar y môr maent yn cyfarfod Manannán mac Lir sy'n eu hebrwng i ynys lawn o bobl dedwydd. Dyma'r Tír na n-Óg enwog, 'Gwlad Ieuenctid'. Wedyn fe ânt yn eu blaenau i ynys arall lle ni cheir ond merched hardd. Yna y treuliant nifer o flynyddoedd mewn dedwyddwch pur ond nid yw'r amser yn ymddangos iddynt ond fel blwyddyn.