Môr Tasman

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o Fôr Tasman
Llun lloeren o Fôr Tasman

Mae Môr Tasman yn gorff mawr o ddŵr hallt rhwng Awstralia a Seland Newydd, tua 2000 km (1250 milltir) ar draws. Mae'n rhan dde-orllewinol o'r Cefnor Tawel. Cafodd ei enwi ar ôl y fforiwr o'r Iseldiroedd Abel Janszoon Tasman, yr Ewropead cyntaf a gofnodir i ddarganfod Seland Newydd a Tasmania. Yn y 1770au chwilwyd y môr yn fanwl gan y fforiwr o Sais Capten James Cook yn ystod ei fordaith gyntaf i'r Cefnfor Tawel.

Yn ôl y Sefydliad Hydrographig Rhyngwladol, mae Môr Tasman yn cynnwys y dyfroedd i'r dwyrain o'r taleithiau Awstraliaidd De Cymru Newydd, Victoria a Tasmania. Mae'r dalaith ogleddol Queensland yn gorwedd ar y Môr Cwrel, ac mae'r ffin rhwng De Cymru Newydd a Queensland yn cael ei defnyddio fel ffin rhwng y ddau fôr hefyd.

Ceir sawl grŵp o ynysoedd yn y Môr Tasman, yn ogystal â sawl ynys arfordirol ger Awstralia a Seland Newydd:

Mae'r grwpiau o ynysoedd hyn yn perthyn i Awstralia.