James Cook
| James Cook fforiwr |
|
| Geni: |
27 Hydref 1728 Marton, Cleveland, Lloegr |
| Marw: |
14 Chwefror 1779 Bae Kealakukea, Hawaii |
Ganwyd Capten James Cook ar 27 Hydref, 1728, ym Marton yn Cleveland, Lloegr, a chafodd ei ladd ar 14 Chwefror, 1779, yn Hawaii. Teithiodd o gwmpas y byd dair gwaith, er mwyn darganfod tiroedd newydd. Fe luniodd fapiau manwl, er enghraifft o arfordiroedd ynysoedd y Môr Tawel, Awstralia, Seland Newydd a Gogledd America.
Roedd y daith gyntaf (1768-1771) yn yr HM Bark Endeavour i Dahiti er mwyn gwylio'r blaned Gwener yn symud o flaen yr haul. Yn anffodus, doedd hi ddim yn bosibl cael canlyniadau cywir gyda'r offer seryddol ar y pryd. Ar ôl gwylio Gwener, aeth Cook i chwilio am Terra Australis, arfordir cyfiniol y Môr Tawel, ac i fapio arfordiroedd Seland Newydd ac Awstralia.
Roedd yr ail daith (1772-1775) ar HMS Resolution ac HMS Adventure; roedd yn daith arall i ddod o hyd i Terra Australis a'r cynnig cyntaf i long o Ewrop hwylio i Fôr Antarctica. Ar y daith hon profodd Cook nad oedd Terra Australis yn bodoli, ond darganfu lawer o ynysoedd.
Roedd y drydedd daith (1776-1779) ar y llongau HMS Resolution ac HMS Endeavour, i chwilio am lwybr môr o'r Môr Iwerydd i'r Môr Tawel o gwmpas gogledd Canada, sef y 'Tramwyfa gogledd-orllewin'. Ar ôl gwneud mapiau o arfordir gorllewin America, bu'n rhaid iddo droi yn ôl i Hawaii, lle cafodd ei ladd gan brodorion yr ynys ar ôl brwydro i gael yn ôl cwch a oedd wedi'i ddwyn. Roedd y Cymro David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg), yn feddyg ar drydedd fordaith y Capten Cook. Roedd yn fab i'r llenor Edward Samuel, gŵr o Benmorfa yn Edeirnion, a fu'n berson Llangar o 1721 tan 1748. Cadwodd ddyddiadur am y fordaith a chyhoeddodd y llyfr adnabyddus A Narrative of the Death of Captain James Cook yn 1786.
Mae Cook yn enwog iawn am ei sgiliau gwneud mapiau, am fod yn lwyddiannus wrth atal afiechydion morwyr, ac wrth ddatblygu dulliau mordwyo newydd.