Map
Cynrychiolaeth weledol o ardal ddaearyddol yw map, hynnyw yw, dadansoddiad symbolaidd sy'n tynnu sylw at y berthynas rhwng yr elfennau yn y lle megis gwrthrych, ardaloedd a themâu.
Mae llawer o fapiau'n ddwy ddimensiynol a chaesian gynrychioli geometri yn fanwl gywir ond yn statig, tra bod eraill yn ddeinamig a rhyngweithiol, a hyd yn oed yn 3D.
Cynnwys |
Mathau o fap[golygu]
Mae yna sawl gwahanol fath o fap ar gael. Mae pwrpas arbennig i bob arddull ac mae pob un yn cynrychioli gwybodaeth mewn ffordd benodol.
Map Topograffig[golygu]
Mae mapiau topograffig yn arddangos prif nodweddion y tirwedd ffisegol megis bryniau, afonydd a dyffrynoedd. Maent hefyd yn arddangos nodweddion dynol megis aneddiadau a chyfarthrebau.
Cartogram[golygu]
Mae cartogramau yn eithaf cymhleth i'w llunio. Mae maint ac arwynebedd yn cyfateb i faint y data sy'n cael ei gynrychioli.
Map Coropleth[golygu]
Mae mapiau cloropleth yn arddangos data rhanbarthol trwy liw.
Map Dot[golygu]
Mae mapiau dot yn arddangos gwerth rhif ar fap trwy gylchoedd yn ôl ei maint. Maent yn arddangos ffactorau megis poblogaeth yn effeithiol.
Map Isopleth[golygu]
Mae'r llinellau ar fap isopleth yn uno pob lle sydd a'r un gwerth. Maent yn arddangos ffactorau megis tymheredd yn effeithiol.
Map Symbol[golygu]
Mae mapiau symbolau pwynt yn dangos ble yn union mae modd gweld nodwedd neilltuol.