Humphrey Lhuyd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Humphrey Lhuyd
Cartre'r Llwydiaid yn Foxhall, Dinbych
Yr Eglwys Wen (neu 'Llanfarchell'), Dinbych, lle'i claddwyd
Cofeb neu feddrod Llwyd, gyda glôb ar ei ben i nodi'i gyfraniad i gartograffeg; Yr Eglwys Wen.

Meddyg, cartograffydd, hynafiaethydd ac awdur Cymreig oedd Humphrey Lhuyd, weithiau Humphrey Llwyd (1527 - 31 Awst 1568).

Bywgraffiad[golygu]

Ganed ef yn Foxhall Ninbych yn fab i Robert Llwyd (a oedd yn ddisgynydd i Harry Rossendale, un o swyddogion yr 3ydd Iarll Lincoln. Symudodd Foulk Rosindale o Loegr i Gymru a phriododd un o deulu Llwydiaid Aston, o ble daeth y cyfenw gan roi enw'r Foulkes ar y plasdy newydd 'Foulkes Hall' - Foxhall bellach, sy'n dal i sefyll.

Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Brasenose, Rhydychen ac roedd yn gyfoeswr i Thomas Salisbury a William Morgan. Bu'n feddyg preifat i Henry FitzAlan, 19fed Iarll Arundel am gyfnod, cyn dychwelyd i Ddinbych yn 1563. Ynghyd â llyfrgell Arundel, ei lyfrgell personol ef oedd craidd y Casgliad Brenhinol - a gedwir heddiw yn y Llyfrgell Brydeinig.[1] Bu'n Aelod Seneddol dros East Grinstead yn ystod teyrnasiad Elisabeth I, brenhines Lloegr (1559).

Ei arwyddair oedd: Hwy pery klod na golyd. [1] Cedwir ar glawr marwnad iddo gan Lewis ab Edward. Priododd Barbara, aeres yr Arglwydd Lumley, a bu iddynt bedwar o blant. Bu farw yn Ninbych, a chladdwyd ef yn yr Eglwys Wen yno.

Ei waith[golygu]

Yn ogystal a'r cyhoeddiadau a nodir isod, cyhoeddodd Lhuyd The Description of Cambria, fersiwn wedi ei helaethu o lyfryn gan Syr John Price, Aberhonddu. Defnyddiodd David Powel y gwaith yma fel sylfaen i'w lyfr The Historie of Cambria (1584).

Roedd yn adnabod Abraham Ortelius, ac ymddangosodd dau fap o waith Lhuyd fel atodiad i Theatrum Orbis Terrarum Ortelius yn 1573, un o Gymru ac un o Gymru a Lloegr. Rhain oedd y mapiau cyntaf o'r gwledydd yma i'w hargraffu ar wahan.

Cyhoeddiadau[golygu]

  • An Almanack and Kalender containing the Day, Hour, and Minute of the Change of the Moon for ever
  • Cronica Walliae (1559)
  • De Mona Druidium Insulâ (sef 'Ynglŷn â Derwyddon Ynys Môn')
  • Commentarioli Descriptionis Britannicae Fragmentum (Cwlen, 1572) - cyfieithwyd i'r Saesneg gan Thomas Twyne fel The Breviary of Britayne (1573)
  • The Treasury of Health (1585)

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 R. Brinley Jones, ‘Llwyd, Humphrey (1527–1568)’, Oxford Dictionary of National Biography, Gwasg Prifysgol Rydychen, Medi 2004

Dolen allanol[golygu]