Mathew Paris

Oddi ar Wicipedia
Mathew Paris
Ganwydc. 1200 Edit this on Wikidata
Lloegr Edit this on Wikidata
Bu farw1259 Edit this on Wikidata
St Albans Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol St Albans Edit this on Wikidata
Galwedigaethmapiwr, hagiograffydd, achydd, goleuwr, arlunydd, ysgrifennwr, mynach, hanesydd, copïwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amChronica maiora, The Lives of the Two Offas Edit this on Wikidata

Hanesydd canoloesol o Sais oedd Mathew Paris (c. 1200 - Mehefin 1259),[1] sy'n adnabyddus hefyd fel darluniwr llawysgrifau.

Ymunodd Mathew ag abaty Benedictaidd St Albans yn 1217 ac aeth yn ddisgybl i'r croniclydd Roger o Wendover a'i olynu fel croniclydd yr abaty yn 1236. Teithiodd i astudio yn Ffrainc ddwywaith ac aeth unwaith yn gennad dros y Pab Innocentius IV i Norwy.

Mae ei Chronica Majora yn olygiad a pharhad o gronicl Roger o Wendover. Ynddo ceir hanes tranc Gruffudd ap Llywelyn Fawr wrth geisio dianc o Dŵr Llundain. Cyhoeddodd sawl gwaith arall, gan gynnwys crynhoad o'r blynyddoedd 1200-1250 yn y Chronica Majora (y Historia Minora) a bywgraffiadau abadau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Matthew Paris (yn Saesneg). CUP Archive. t. 11.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.