Mynach

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sant Anthoni Fawr, a ystyrir yn dad mynachaeth Gristnogol

Mynach (Groeg: μοναχός, monachos, Lladin: monachus), yw dyn sy'n byw bywyd crefyddol neilltuedig, un ai ar ei ben ei hun neu mewn cymuned, ac yn dilyn rheolau arbennig. Gelwir merch sy'n byw yr un math o fywyd yn lleian fel rheol. Ceir mynachod mewn nifer o grefyddau, ond yn arbennig mewn Cristnogaeth a Bwdhaeth.

Tueddir i ddefnyddio "mynach" am berson sy'n byw mewn cymuned a elwir yn fynachlog; ond mewn gwirionedd mae meudwy, sy'n byw ar ei ben ei hun, hefyd yn fath ar fynach.

Cristnogaeth[golygu]

Ysbrydolwyd mynachaeth o fewn Cristnogaeth ngan esiamplau megis y proffwyd Elias a Ioan Fedyddiwr, a fu ill dau yn byw yn yr anialwch.

Y Cristion cyntaf y gwyddir iddo ddilyn bywyd fel hyn oedd Sant Anthoni Fawr (251 - 356), fu'n byw fel meudwy yn anialwch yr Aifft ac a ddenodd gryn nifer o ddilynwyr ac efelychwyr. Dywedir mai Sant Pachomius (c. 292 - 348) oedd y cyntaf i ddatblygu'r syniad o gymuned o fyneich yn byw dan reolaeth abad. Daeth mynachaeth yn boblogaidd iawn yn yr Ymerodraeth Fysantaidd; ar ei uchafbwynt roedd tua 30,000 o fyneich. Yn y gorllewin, datblygwyd y rheol fynachaidd gyntaf gan Sant Benedict o Nursia (c. 480547).

Bwdhaeth[golygu]

Ym Mwdhaeth Theravada, gelwir mynach yn bhikkhu, a'r rheol fynachaidd yn patimokkha. Disgwylir i'r mynachod fyw ar yr hyn a roddir iddynt; gan fynd o amgylch bob bore i gasglu rhoddion o fwyd. Mae'r myneich yn rhan o'r Sangha. Ceir myneich hefyd mewn Bwdhaeth Mahayana a Vajrayana hefyd, gyda rheolau ychydig yn wahanol.

Mewn rhai gwledydd, er enghraifft Gwlad Thai, mae'n arferol i fechgyn dreulio blwyddyn neu ddwy mewn mynachlog fel rhan o'u hyfforddiant, er bod rhai yn dewis aros yn barhaol.

Gweler hefyd[golygu]