David Samwell

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
David Samwell

Meddyg ac awdur o Gymro oedd David Samwell neu Dafydd Samwell (15 Hydref 1751 - 23 Tachwedd 1798), a adnabyddir yn Gymraeg fel Dafydd Ddu Feddyg.

Roedd yn un o wyrion y llenor Edward Samuel, gŵr o Benmorfa yn Edeirnion, a fu'n berson Llangar, Sir Feirionnydd, o 1721 tan 1748. Cafodd ei eni yn Nantglyn, Sir Ddinbych, yn 1751.

Graddiodd yn feddyg ac aeth ar drydedd fordaith y Capten James Cook ar fwrdd y Discovery yn 1776-79. Bu'n dyst i ladd Cook ar un o ynysoedd Hawaii a chyhoeddodd yr hanes yn ei lyfr A Narrative of the Death of Captain James Cook ar ôl dychwelyd. Cadwodd ddyddiadur hefyd, sy'n cael ei ystyried yn waith arloesol ym maes anthropoleg.

Bu gan Samwell ran flaenllaw ym mywyd diwylliannol Cymry Llundain. Ymhlith ei gyhoeddiadau ceir y gerdd 'The Padouca Hunt', sy'n ymwneud â'r traddodiad fod Madog ab Owain Gwynedd wedi sefydlu gwladfa Gymreig yng ngogledd America. Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas y Gwyneddigion ac yn aelod o'r Caradogion hefyd. Ymhlith ei gydnabod oedd Iolo Morgannwg a'r Gwallter Mechain ifanc. Cynorthwyodd Iolo Morgannwg i sefydlu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.

Bu farw Samwell yn 1798 a chafodd ei gladdu ym mynwent Eglwys St Andrews, Holborn, yn Llundain, ger Ysgol Gymraeg Llundain.

Llyfryddiaeth[golygu]

Llyfrau Samwell[golygu]

  • A Narrative of the Death of Captain James Cook (Llundain, 1786; ail-gyhoeddwyd fel Captain Cook and Hawaii yn 1957)
  • Some Account of a Voyage to South Seas 1776-1777-1778 (dyddiadur anghyhoeddedig, yn y Llyfrgell Brydeinig)
  • The Padouca Hunt (1799). Ysgrifenwyd yn 1791.

Bywgraffiad[golygu]

  • E. G. Bowen, David Samwell (Cyfres Gŵyl Dewi, 1974)