Gwyneddigion

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cymdeithas lenyddol a diwylliannol a sefydlwyd gan Gymry alltud gwladgarol yn Llundain yn 1770 gyda'r amcan o ddiogelu a hyrwyddo llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru oedd Y Gwyneddigion (weithiau Cymdeithas y Gwyneddigion). Mae'n cael ei hystyried yn aml yn ymateb gwerinol i Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.

Dechreuodd y Gwyneddigion fel math o glwb bychan preifat i Gymry Llundain. Fel y mae ei henw yn awgrymu, Gogleddwyr oedd y mwyafrif o'r aelodau. Roedd ei haelodau pwysicaf yn cynnwys y ffilanthropydd Owain Myfyr, y bardd Jac Glan y Gors, y geiriadurwr William Owen Pughe, a'r llenor a ffugiwr unigryw Iolo Morgannwg. Cyhoeddodd y Gymdeithas sawl cyfrol sydd a lle pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg a datblygiad ysgolheictod Cymraeg, yn enwedig Barddoniaeth Dafydd ap Gwilym (1789), y Myvyrian Archaiology of Wales (1801-07, 3 cyfrol), a'r cylchgrawn hynafiaethol Y Greal (1805-07).

Cynhaliwyd sawl eisteddfod dan nawdd ac arweiniad y Gwyneddigion hefyd, yn cynnwys Eisteddfod y Bala 1793 ac Eisteddfod Caerwys 1798, sy'n gerrig milltir yn hanes yr eisteddfod fodern.

Dirwynodd gweithgareddau'r Gwyneddigion i ben yn ail chwarter y 19eg ganrif, ac ni chlywir amdani ar ôl 1837. Ymunodd nifer o'r aelodau â'r Cymmrodorion ar ei newydd wedd. Yn 1976 ffurfiwyd cymdeithas lenyddol newydd gan Gymry Llundain dan yr enw 'Cymdeithas y Gwyneddigion'.

Llyfryddiaeth [golygu]

  • R. T. Jenkins a Helen Ramage, A History of the Honourable Society of Cymmrodorion and of the Gwyneddigion and Cymreigyddion Societies (Llundain, 1951)
  • Prys Morgan, The Eighteenth Century Renaissance (Abertawe, 1981)

Gweler hefyd [golygu]