Iolo Morganwg
| Iolo Morganwg | |
|---|---|
| Ganwyd | Edward Williams 10 Mawrth, 1747 Pennon, Bro Morgannwg |
| Bu farw | 18 Rhagfyr, 1826 Trefflemin, Bro Morgannwg |
| Cenedligrwydd | Cymro |
| Yn enwog am | Sefydlu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain |
| Galwedigaeth | Hynafiaethydd, bardd, saer maen, ffugiwr llenyddol |
| Plant | Taliesin Williams |
Roedd Edward Williams (10 Mawrth 1747 - 18 Rhagfyr 1826), sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Iolo Morganwg, yn fardd a hynafiaethydd a aned ym mhentref bychan Pennon, plwyf Llancarfan, ym Morgannwg, de Cymru. Fe sy'n gyfrifol am y rhan helaeth o seremonïau'r Eisteddfod Genedlaethol, ac fe hefyd a sefydlodd Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Dim ond yn yr 20fed ganrif y sylweddolwyd ei fod yn un o'r ffugwyr llenyddol mwyaf cynhyrchiol a llwyddianus erioed.
Cynnwys |
Bywgraffiad [golygu]
Ganwyd Edward Williams, yn 1747, ym mhentre Pennon ym mhlwyf Llancarfan ond symudodd ei rieni i fyw ym mhentref Trefflemin, rhai milltiroedd yn unig i ffwrdd, ar lan Afon Ddawan, ac yno y'i magwyd ac y bu'n byw am y rhan helaeth o'inoes. Gweithiodd trwy gydol ei oes fel saer maen, ym Morgannwg ac yn Lloegr, ond daeth yn enwog fel hynafiaethwr, bardd a radical. Yn Llundain roedd yn aelod ymroddgar o'r Gwyneddigion, cylch o lenorion gwladgarol a oedd yn cynnwys William Owen Pughe ac Owain Myvyr. Daeth i adnabod Robert Southey a dechreuodd alw ei hun yn "The Bard of Liberty". Fel rhai o lenorion mawr eraill yr oes roedd Iolo'n hoff iawn o opiwm ar ffurf laudanium.
Tra yng ngharchar Caerdydd dros fethdaliad, ganed ei fab a fedyddiodd yn Daliesin. Roedd Taliesin yn ddisgybl i'w dad a golygodd ran o'i waith ar ôl ei farwolaeth.
Pan fu farw Iolo yn 78 oed ar 18 Rhagfyr 1826, bu galar ar ei ôl gan lawer o feirdd Cymru ac eraill a'i edmygai. Cyfansoddodd Walter Davies (Gwallter Mechain) 'gywydd-gofiant' iddo sy'n clodfori ei ddysg a'i ddawn ac sy'n cloi gyda'r llinellau hyn:
- Tra bo ton yn afon Nedd
- A Dawon i'r un duedd,
- Taf a Chynon afonydd
- Yn gyr[r]u'u dwfr i Gaer Dydd,
- Bydd ym mhob glyn, bryn a bro
- Miloedd yn sôn am Iolo.[1]
Gwaith llenyddol [golygu]
Iolo oedd un o olygyddion tair cyfrol y Myvyrian Archaiology (1801-1807).
Cyfansoddodd Iolo nifer o gerddi. Yn eu plith mae'r cywyddau a dadogodd ar feirdd o'r Oesoedd Canol, rhai ohonynt yn feirdd hanesyddol, fel Dafydd ap Gwilym, ac eraill yn greaduriaid o ben a phastwn Iolo ei hun. Cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg o'r cywyddau dan y teitl Poems Lyric and Pastoral yn 1794. Er i ddilysrwydd y cerddi hyn gael ei amau ac yna ei gwrthbrofi gan ysgolheigion yr 20fed ganrif, maent yn cael eu cydnabod fel cerddi gwych ynddynt eu hunain erbyn heddiw. Cyfansoddodd nifer fawr o emynau ar gyfer yr Undodiaid Cymraeg a gyhoeddwyd yn 1812. Ysgrifennodd nifer o gerddi rhydd swynol yn ogystal.
Wedi ei farwolaeth cyhoeddwyd Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain yn 1829 ac yn 1848 gwelodd ei gasgliad mawr o farddoniaeth a rhyddiaith hanesyddol, ffug a dilys, olau dydd yn y gyfrol yr Iolo Manuscripts (The Welsh Manuscripts Society, 1848). Yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif cyhoeddwyd rhai o'i ffugweithiau eraill, yn cynnwys Coelbren y Beirdd (1840), Dosparth Edeyrn Dafod Aur (The Welsh Manuscripts Society, 1856) a Barddas (The Welsh Manuscripts Society: 1862, 1874).
Mae'r rhan fwyaf o lawysgrifau a llyfrau Iolo yn cael eu diogelu yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ers 1916.
Dylanwad [golygu]
Yn ystod y can mlynedd ar ôl ei farwolaeth yn 1826, daeth enw Iolo Morgannwg yn destun llosg yng Nghymru, wrth i ysgolheigion cyfoes ddatguddio faint o "ddarganfyddiadau" Iolo oedd, mewn gwirionedd, yn ffrwyth dychymyg Iolo ei hun. Ond erbyn heddiw, er bod pawb yn derbyn mai ffugio a wnaeth, mae defodau a seremonïau Iolo wedi ennill eu plwyf ym mywyd diwylliannol Cymru, ac mae Iolo ei hun wedi dod yn arwr i'r Cymry.
Llyfryddiaeth [golygu]
- Gweithiau Iolo (detholiad)
- Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain (1829)
- Iolo Manuscripts (The Welsh Manuscripts Society, 1848; ail argraffiad ffacsimili, Isaac Foulkes, Lerpwl, 1888).
- Coelbren y Beirdd (1840)
- Dosparth Edeyrn Dafod Aur (The Welsh Manuscripts Society, 1856)
- Barddas (The Welsh Manuscripts Society: 1862, 1874)
- Cerddi Rhydd Iolo Morganwg, gol. P. J. Donovan (Caerdydd, 1980). Detholiad sy'n cynnwys nifer o'r cerddi "canoloesol" ffug.
- Astudiaethau
- Cathryn A. Charnell-White, Bardic Circles[:] National, Regional and Personal Identity in the Bardic Vision of Iolo Morganwg (Canolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2007). ISBN 978-0-7083-2067-9
- Mary-Ann Constantine, The Truth against the World[:] Iolo Morganwg and Romantic Forgery (Canolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2007). ISBN 978-0-7083-2062-4
- Geraint H. Jenkins (gol.), A Rattleskull Genius[:] The Many Faces of Iolo Morganwg (Canolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2005). ISBN 978-0-7083-1971-0
- Geraint H. Jenkins et al. (gol.), The Correspondence of Iolo Morganwg, mewn 3 cyfrol (Canolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2007). ISBN 978-0-7083-2131-7
- Marion Löffler, The Literary and Historical Legacy of Iolo Morganwg 1826-1926 (Canolfan Uwchefrydiau Cymraeg a Cheltaidd Prifysgol Cymru, 2007). ISBN 978-0-7083-2113-3
- Prys Morgan, Iolo Morganwg (cyfres Writers of Wales, 1975)
- Brinley Richards, Golwg Newydd ar Iolo Morgannwg (1979)
- T.D. Thomas, Cofiant (1857)
- Elijah Waring, Recollections and Anecdotes of Edward Williams (1850)
- G.J. Williams, Iolo Morgannwg (Caerdydd, 1956)
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Gwallter Davies, 'Cywydd-gofiant Iolo Morganwg', D Silvan Evans (gol.), Gwaith Gwallter Mechain, cyfrol 1 (Caerfyrddin, 1868). Tud. 61.
Dolenni allanol [golygu]
- Iolo Morganwg a'r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru Prosiect yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaid, Prifysgol Cymru
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru - Hanes Iolo Morganwg a'r llawysgrif History of the British Bards
- Un o arwyr Cymru
- Prifysgol Tromso - llyfryddiaeth