Cymry Llundain

Oddi ar Wicipedia

Term a ddaeth yn ffasiynol ddiwedd y 18g a dechrau'r ganrif olynol i ddisgrifio'r Cymry oedd yn byw a gweithio (dros dro neu fel arall) yn ninas Llundain yw Cymry Llundain. Yn ogystal â'r bobl o Gymru a oedd/sydd yn byw yno, mae'r term yn cael ei ddefnyddio yn aml i gyfeirio at weithgareddau diwyllianol ayyb y gymuned alltud hefyd.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn anad un ddinas arall yn Lloegr mae gan Lundain gysylltiadau hir â Chymru. Mae Cymry Llundain wedi cael eu disgrifio fel "yr hynaf a'r fwyaf o'r holl gymunedau o alltudion o Gymru". O'r Oesoedd Canol Diweddar ymlaen, ceir cofnodion am Gymry yn ymweld â Llundain - ac weithiau'n aros yno - fel milwyr hur, masnachwyr, ac ati. Cynyddodd y llif yn sylweddol ar ôl buddugoliaeth Harri Tudur ar Faes Bosworth yn 1485. Aeth nifer o uchelwyr i'r ddinas i lys y brenin newydd, er enghraifft, a bu eraill yn byw yno yn gweithio fel gweinyddwyr a chyfreithwyr. Roedd porthmyn cynnar o Gymru yn adnabod y ddinas hefyd, er na fyddent fel rheol yn ymsefydlu yno.

Erbyn canol y 18g roedd cymuned bur sylweddol o Gymry alltud yn byw yno, naill ai dros dro neu'n barhaol. Am fod Cymru yn amddifad o brifddinas a chanolfannau trefol mawr, daeth Llundain yn ganolbwynt i lenorion a hynafiaethwyr hefyd a sefydlwyd sawl cymdeithas ddiwylliannol wladgarol yno, gan gynnwys y Gwyneddigion a'r Cymmrodorion. Er eu bod yn gweithio o Lundain, un o brif amcanion y cymdeithasau hyn oedd hyrwyddo llenyddiaeth Gymraeg ac astudiaethau hynafiaethol yng Nghymru ei hun, yn ogystal â cheisio ennill parch at etifeddiaeth Cymru yng nghylchoedd deallusion Lloegr. Mae'r bobl a gysylltir a'r gweithgareddau hyn yn cynnwys Morrisiaid Môn (yn enwedig Lewis Morris), William Owen Pughe, Owain Myfyr, Goronwy Owen a Iolo Morganwg. I Iolo yn enwedig roedd hawlio Llundain yn ôl gan y Cymry, fel petai, o arwyddocad symbolaidd, a chynhaliodd gyfarfod cyntaf Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yno. Dyma pryd sefydlwyd Ysgol Gymraeg Llundain hefyd, a fu'n gartref i lawysgrifau Cymraeg pwysig am gyfnod, yn ogystal â lle i ddarparu addysg Gymraeg.

Bu trai ar y gweithgareddau hyn yn y 19eg ganrif, wrth i argraffweisg niferus gael eu sefydlu yng Nghymru ac ysbryd Ymneilltuaeth afael yn y wlad. Ond erbyn canol y ganrif, am resymau economaidd yn bennaf, ymfudodd nifer o bobl o haenau is cymdeithas i Lundain er mwyn cael gwaith, yn enwedig o rannau gwledig o dde-orllewin Cymru fel Ceredigion a Sir Gaerfyrddin (tueddai pobl yn y Gogledd i geisio gwaith yn Lerpwl). Roedd y porthmyn wedi arfer cyrchu gwartheg i Lundain ers canrifoedd, ond heb aros yno fel rheol. Ond rwan aeth nifer o werthwyr llaeth gyda nhw ac ymsefydlu yno gan fod galw am eu cynnyrch yn y farchnad, a Llundain yn tyfu mor gyflym. Codwyd sawl capel Cymraeg yn Llundain yn y cyfnod yma hefyd.

Ond erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd nifer o Gymry deallus yn y ddinas yn dechrau poeni am gyflwr Cymru ac yn enwedig ei diffyg sefydliadau cenedlaethol. Cymerodd Cymdeithas y Cymmrodorion ran bwysig yn yr ymgyrch i sefydlu Prifysgol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Rhwng y ddau ryfel byd daeth Llundain yn ganolfan bur bwysig i lenorion Cymru unwaith eto. Mae'r rhai a fu'n gweithio yno neu a ymsefydlodd yno yn cynnwys Caradog Prichard (awdur Un Nos Ola Leuad), Dylan Thomas, Aneirin Talfan Davies a Llewelyn Wyn Griffith. Roedd siop lyfrau y Brodyr Griffiths - "Siop Griffs" - ger Charing Cross yn ganolfan bwysig.

Daeth newid pwysig yn y 1950au a'r 1960au gyda chyhoeddi Caerdydd yn brifddinas Cymru a'r cynnydd mewn gwaith gweinyddol a ddaeth yn sgil hynny, a lleihaodd nifer y Cymry a aethai i Lundain er mwyn eu gyrfa broffesiynol.

Amcangyfrifir gan rai fod tua 100,000 o bobl a aned yng Nghymru (heb sôn am bobl o dras Gymreig) yn byw yn Llundain heddiw, ond erbyn hyn mae rhwymau cymdeithas wedi llacio a bychan iawn mewn cymhariaeth â'r hen ddyddiau y mae cymdeithas Gymraeg/Gymreig y ddinas erbyn heddiw.

Llefydd[golygu | golygu cod]

  • Canolfan Cymry Llundain, Kings Cross
  • Clwb rygbi'r undeb Cymry Llundain, Richmond
  • Ysgol Gymraeg Llundain, Wembley
  • Uwcheglwys San Bened, Paul’s Wharf, EC4
  • Capel Jewin, 70 Fann Street, EC1
  • Eglwys Unedig Canol Llundain, 30 Eastcastle Street W1
  • Capel Y Boro, 90 Southwark Bridge Road, SE1
  • Capel Dewi Sant Mary's Terrace Paddington Green, W2
  • Capel Seion, Ealing Green, W5
  • Capel Harrow, Lower Road
  • Capel Clapham Junction, Beauchamp Road, SW11
  • Capel Sutton, Lind Road
  • Capel Cockfosters, Freston Gardens, EN9
  • Capel Moreia, Leytonstone, 881 High Road, E11
  • Capel Lewisham, 289 Lewisham Way, SE4
  • Tafarn y Tri Brenin Enwog (dim ond i edrych ar gemau rygbi rhyngwladol)

Cymdeithasau[golygu | golygu cod]

Corau[golygu | golygu cod]

  • Côr Meibion Llundain
  • Côr Meibion Gwalia
  • Corâl Cymry Llundain
  • Côr Clwb Rygbi Cymry Llundain
  • Côr Merched Cymry Llundain

Golygfeydd[golygu | golygu cod]

Cofeb Iolo Morganwg ar Fryn y Briallu

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]