Môr Cwrel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad y Môr Cwrel

Môr sy'n rhan o'r Cefnfor Tawel yw'r Môr Cwrel[1] (Saesneg: Coral Sea, Ffrangeg: Mer de Corail). Saif rhwng Queensland yng ngogledd-ddwyrain Awstralia, Papua Gini-Newydd, Ynysoedd Solomon a Vanuatu a Caledonia Newydd. Yn y de, mae'n ffinio ar Fôr Tasman.

Caiff ei enw oherwydd mai yma y mae'r Barriff Mawr, y system rîff cwrel mwyaf yn y byd. Bu brwydr forwrol fawr, Brwydr y Môr Cwrel, yma yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 110.