Manawydan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Manawydan fab Llŷr yw'r prif gymeriad yn nhrydedd cainc Bedair Cainc y Mabinogi, chwedl Manawydan fab Llŷr, ac yn ymddangos hefyd yn yr ail gainc Branwen ferch Llŷr.

Crynodeb o'r chwedl[golygu]

Mae Manawydan yn frawd i Branwen a Brân Fendigaid, brenin Ynys Prydain. Pan gaiff Branwen ei chamdrin gan ei gŵr, Matholwch brenin Iwerddon, mae Manadwydan yn croesi i Iwerddon gyda'i frawd a'i fyddin i ddial ei cham. Wedi ymladd chwerw, mae Manawydan yn un o'r saith gŵr sy'n dychwelyd yn fyw o Iwerddon. Mae'n derbyn gwahoddiad gan Pryderi i ddod gydag ef i Ddyfed a phriodi ei fam, Rhiannon.

Manawydan, yr esgob a'r llygoden - llun o engrafiad yn "Mabinogion" yr Arglwyddes Charlotte Guest (1877)

Cyn hir mae hud yn disgyn ar Ddyfed ac mae ei phoblogaeth yn diflannu, heblaw am Manawydan, Rhiannon, Pryderi a Cigfa, gwraig Pryderi. Gorfodir hwy i symud i Loegr, lle mae Manawydan a Phryderi yn ennill bywoliaeth fel crefftwyr. Maent yn ymgymeryd a nifer o grefftau, ond mae eu gwaith mor dda nes bod y crefftwyr lleol yn elyniaethus ac yn eu gorfodi i symud o fan i fan.

Maent yn dychwelyd i Ddyfed, lle mae Pryderi yn cael ei gaethiwo mewn caer hud, ac yna mae Rhiannon hithau yn cael ei charcharu wrth geisio ei achub, gan adael dim ond Manawydan a Chigfa ar ôl. Ymhen dwy flynedd mae Manawydan yn dal un o'r llygod sydd wedi bod yn bwyta ei ŷd, ac yn mynd ati i'w chrogi. Daw ysgolhaig, offeiriad ac yna esgob heibio i geisio perswadio Manawydan i beidio crogi'r llygoden. Datgelir mai gwraig feichiog Llwyd fab Cil Coed yn rhith llygoden ydyw, ac mai Llwyd a osododd yr hud ar Ddyfed fel dial am y modd y cafodd ei gyfaill Gwawl fab Clud ei gamdrin gan Pwyll yn y gainc gyntaf. Rhyddheir ei wraig ar yr amod ei fod yn rhyddhau Pryderi a Rhiannon a chodi'r hud.

O ran ei enw mae Manawydan fab Llŷr yn cyfateb i dduw'r môr, Manannán mac Lir, yn Iwerddon, sydd a chysylltiad hefyd ag enw Ynys Manaw. Fodd bynnag mae cymeriad Manawydan yn y Pedair Cainc yn bur wahanol i gymeriad Manannán mac Lir ym mytholeg Iwerddon.

Llyfryddiaeth[golygu]

Y testun[golygu]