Sain Dunwyd
Pentref a chymuned ger arfordir Bro Morgannwg, de Cymru, yw Sain Dunwyd (Saesneg: St Donats neu English St Donats).
Fe'i gelwir weithiau yn English St Donat's am fod eglwys arall gysegredig i Sant Dunwyd yn y Fro, sef Llanddunwyd (Welsh St Donat's), ger Y Bont-faen. Roedd Dunwyd yn gyfaill i Sant Cadog.
Lleolir y pentref fymryn i'r gorllewin o dref fechan Llanilltud Fawr. Mae plwyf Sain Dunwyd yn cynnwys pentref Marcroes (Marcross).
Codwyd Castell Sain Dunwyd gan y teulu De Hawey yn y 12fed ganrif, ar fryn ger y pentref. Heddiw mae'n gartref i Goleg yr Iwerydd (Atlantic College), sy'n ysgol breswyl ryngwladol.
Gweler hefyd [golygu]
- Croes Sant Dunwyd: croes eglwysig yn dyddion ôl i'r 14eg ganrif.
Aberogwr · Aberddawan · Aberthin · Y Barri · Y Bont-faen · City · Corntwn · Dinas Powys · Eglwys Fair y Mynydd · Ewenni · Ffont-y-gari · Gwenfô · Larnog · Llanbedr-y-fro · Llancarfan · Llancatal · Llandochau · Llandochau Fach · Llandŵ · Llanddunwyd · Llan-faes · Llanfair · Llanfihangel-y-pwll · Llanfleiddan · Llangan · Llansanwyr · Llanilltud Fawr · Llwyneliddon · Llyswyrny · Marcroes · Merthyr Dyfan · Ogwr · Penarth · Pendeulwyn · Pen-llin · Pennon · Pen-marc · Y Rhws · Sain Dunwyd · Saint Andras · Sain Nicolas · Sain Siorys · Sain Tathan · Saint-y-brid · Y Sili · Silstwn · Southerndown · Trebefered · Trefflemin · Tregatwg · Tregolwyn · Tresimwn · Y Wig · Ystradowen