Llansanwyr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan yng nghanol Bro Morgannwg yw Llansanwyr (llurguniad Saesneg: Llansannor).

Gorwedd Llansanwyr ar lan ddwyreiniol yr Afon Ddawan ifanc, rhwng Ystradowen i'r dwyrain a phentref bychan Eglwys Fair y Mynydd i'r gorllewin, tua 3 milltir i'r gogledd o'r Bont-faen.

Yn yr Oesoedd Canol roedd yr eglwys yn gapel a berthynnai i eglwys Llanfleiddan.

Mae'r cyn chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol i Gymru, JPR Williams, yn byw yn y pentref.