Tresimwn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tresimwn: hen dŷ gyda tho gwellt traddodiadol.

Pentref yng nghanol Bro Morgannwg, de Cymru, yw Tresimwn (Saesneg: Bonvilston). Mae'n gorwedd ar yr A48 rhwng Y Bont-faen i'r gorllewin a Sain Nicolas i'r dwyrain.

Enwir y pentref ar ôl yr arglwydd Normanaidd lleol Simon de Bonville (Cymraeg, "Tref Simon"; Saesneg, "Tref Bonville"). Adnewyddwyd Eglwys y Santes Fair yn yr arddull Gothig Fictorianaidd yn y 19eg ganrif; cedwir cloch ganoloesol ynddi.


CymruBroMorgannwg.png Eginyn erthygl sydd uchod am Fro Morgannwg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.