Llandŵ

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cofeb Trychineb Awyr Llandŵ.

Pentref bychan yng nghanol Bro Morgannwg, Cymru, yw Llandŵ (llurguniad Saesneg: Llandow). Gorwedd y pentref tua 15 milltir i'r de-orllewin o ddinas Caerdydd a thua tair milltir a hanner i'r gorllewin o'r Bont-faen.

Yn yr Ail Ryfel Byd roedd Llandŵ yn gartref i un o feysydd awyr y RAF. Heddiw mae rhan o'r hen wersyll yn faes rasio ceir. Ar 12 Mawrth 1950, digwyddodd y ddamwain awyr fwyaf difrifol yn hanes Cymru yn Llandŵ pan darodd awyren gyda nifer o gefnogwyr rygbi Cymru yn dychwelyd o gem yn Nulyn ar ei fwrdd y llawr wrth geisio glanio. Collodd 80 o bobl eu bywydau.[1]

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2012 ar yr hen faes awyr yn Llandŵ.[2]

Cyfeiriadau[golygu]


CymruBroMorgannwg.png Eginyn erthygl sydd uchod am Fro Morgannwg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.