Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Eisteddfodlogo.jpg

Sefydlwyd 1176[1]
Gwefan http://www.eisteddfod.org.uk/

Gŵyl ddiwylliannol bwysicaf Cymru yw Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyda chystadlu mewn llenyddiaeth, cerddoriaeth a drama yn elfen bwysig. Ymhlith y cystadlaethau pwysicaf mae cystadleuaeth am y Gadair am awdl, y Goron am bryddest a'r Fedal Ryddiaith am waith rhyddiaith. Ceir hefyd y Rhuban Glas i'r canwr unigol gorau a chyflwynir Medal Syr T.H. Parry-Williams ers 1975 i gydnabod gwasanaeth gwirfoddol nodedig ymhlith pobl ifanc. Ers 1952, trefnir a llywodraethir yr Eisteddfod gan Lys yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn gyffredinol, ers 1997, mae'r niferoedd sy'n ymweld â hi'n gostwng.

Yr Eisteddfod ddoe a heddiw[golygu]

Er bod traddodiad yr eisteddfod yn ganrifoedd oed, ni chynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf tan 1861, yn Aberdâr. Daeth y gyfres flynyddol honno i ben oherwydd diffyg cyllid yn 1868. Yn 1880 sefydlwyd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol a dan nawdd y gymdeithas hon cynhaliwyd Eisteddfod Merthyr Tudful yn 1881 a chynhaliwyd eisteddfod yn ddifwlch wedyn ar wahân i 1914 a 1940.[2]

Roedd Iolo Morganwg wedi sefydlu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn 1792. Fel y tyfodd yr Eisteddfod Genedlaethol daeth yr orsedd i'w chysylltu fwy-fwy gyda hi, gan gychwyn gydag Eisteddfod Caerfyrddin 1819, nes datblygu yn rhan o seremonïau'r eisteddfod fwy neu lai fel y mae heddiw. Yr orsedd sydd yn gyfrifol am seremonïau cadeirio a choroni'r bardd yn ogystal â chyflwyno'r Fedal Ryddiaith. Ailwampiodd yr Archdderwydd Geraint Bowen tipyn ar y seremonïau, er enghraifft diddymu Seremoni'r Cymry Ar Wasgar' a dod â'r brodyr Celtaidd i mewn i rai o'r prif seremonïau. Mae aelodau'r orsedd yn rhannu'n dri grŵp gyda lliw gwahanol i wisg bob un.

Caiff yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal bob blwyddyn yn ystod wythnos lawn gyntaf mis Awst, yn y de a'r gogledd bob yn ail. Ond ceir Seremoni'r Cyhoeddi tua 13 mis cyn yr Eisteddfod. pryd y bydd Gorsedd y Beirdd a'i chefnogwyr yn gorymdeithio drwy'r dref i Gylch yr Orsedd. Ar ol y seremoni cyflwynir rhestr o destunau'r Eisteddfod i'r Archdderwydd.

Mae maes yr Eisteddfod yn mesur oddeutu 15 i 18 erw. Ar wahan i'r pafiliwn mawr, bydd hefyd y Babell Len, y Babell Ddawns, Pabell y Cymdeithasau, y Lle Celf a bydd nifer o stondinau gan gymdeithasau gwirfoddol, megis yr Urdd, Merched Wawr; bydd y pleidiau gwleidyddol ar y maes hefyd a busnesau.

Yn y gorffennol, roedd Saesneg yn rhan o'r gweithgareddau a chlywid hi hyd yn oed ar lwyfan yr Eisteddfod ei hun. Nododd y cyfansoddiad newydd ym 1952 mai iaith swyddogol yr eisteddfod oedd y Gymraeg yn unig, ac roedd Cynan yn flaenllaw yn y gwaith o gadw'r eisteddfod yn uniaith Gymraeg.

Ymhlith eisteddfodau eraill Cymru mae: Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Eisteddfod Pantyfedwen, Eisteddfod Powys ac Eisteddfod Môn. Ceir hefyd nifer o eisteddfodau llai ledled Cymru, megis Eisteddfod Pwll-glas.

Prif wobrau'r eisteddfod[golygu]

Rhestr o Eisteddfodau Cenedlaethol[golygu]

19eg ganrif[golygu]

20fed ganrif[golygu]

21ain ganrif[golygu]

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru
  2. Melville Richards, 'Eisteddfod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', yn Twf yr Eisteddfod Genedlaethol.
  3. Gwefan yr Eisteddfod
  4. Newyddion BBC am Eisteddfod 2015

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: