Y Wig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hen felin wynt Y Wig.

Pentref ym Mro Morgannwg ydy Y Wig (Saesneg: Wick). Mae tua dwy filltir o'r arfordir, y trefi agosaf yw Llanilltud Fawr, Y Bont-faen a Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae gan y pentref dau dafarn, siop ac ysgol gynradd. Ceir hefyd nifer o lefydd i gerdded a seiclo yn y wlad o amgylch y pentref. Gall ymwelwyr i'r Wig gerdded i'r traethau lleol, Traeth Bach a Traeth Mawr, gan gerdded ar lwybr Cwm Nash ym Monknash neu o Fae Dwnrhefn yn Southerndown. Mae'r llwybrau ar draws y traethau a'r clogwynnau hyn yn ffurfio Llwybr Arfordir Treftadaeth Morgannwg.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Wig (pob oed) (698)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Wig) (75)
  
10.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Wig) (489)
  
70.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Y Wig) (95)
  
32.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013