Llanddunwyd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llanddunwyd

Pentref a chymuned ym Mro Morgannwg, de Cymru, yw Llanddunwyd (Saesneg: Welsh St Donats).

Gorwedd yn y bryniau isel tua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Y Bont-faen, rhwng Aberthin a Phendeulwyn.

Cysgegrir yr eglwys i Sant Dunwyd. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn gapel yn perthyn i eglwys Llanfleiddan. Galwyd y pentref yn Eglwys Llanddunwyd i wahaniaethu rhyngddo â Sain Dunwyd (English St Donats) ar yr arfordir.

Bu Llandunwyd yn un o gadarnleoedd olaf yr iaith Gymraeg yn y Fro, gyda gwasanaethau Cymraeg yn yr eglwys.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanddunwyd (pob oed) (534)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanddunwyd) (93)
  
18.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanddunwyd) (369)
  
69.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanddunwyd) (56)
  
28.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013