Môr Tirrenia

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Môr Tirrenia Môr sy'n rhan o'r Môr Canoldir yw Môr Tirrenia, y Môr Tyrhenaidd, Môr Tirreno[1] neu Môr Tyren[2] (Eidaleg: mar Tirreno).

Saif y môr rhwng rhan de-orllewinol tir mawr yr Eidal ac ynysoedd Corsica, Sardinia a Sicilia. Y rhanbarthau o'r Eidal ay y tir mawr sy'n ffinio ar y môr yma yw Calabria, Basilicata, Campania, Lazio a Toscana. Mae'n cysylltu a Môr Ionia trwy Gulfor Messina.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 50.
  2. Geiriadur yr Academi, t. 1549.