Pentir

Oddi ar Wicipedia
Pentir
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2°N 4.1°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000095 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map

Pentref a chymuned yng Ngwynedd yw Pentir ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif y pentref gerllaw y briffordd A4244 i'r de o ddinas Bangor. Llifa Afon Cegin gerllaw. Cofrestrwyd Eglwys Sant Cedol yn adeilad Gradd II gan Cadw, ac mae ar ei waliau gerfluniau cywrain o bennau.

Ffurfiwyd y gymuned o'r rhan honno o blwyf sifil Bangor oedd tu allan i ddinas Bangor ei hun. Heblaw pentref Pentir, mae'n cynnwys Penrhosgarnedd. Saif plasdy'r Faenol, Ysbyty Gwynedd a Phont Britannia o fewn y gymuned. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2,403 yn 2001.

Ganed y mathemategydd John William Thomas (Arfonwyson) yn y pentref yn 1805.

Olion hynafol[golygu | golygu cod]

Ceir clwstwr cytiau Cors y Brithdir a Fodol Ganol gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.

Y fynwent

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pentir (pob oed) (2,450)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pentir) (1,389)
  
58.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pentir) (1673)
  
68.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Pentir) (303)
  
30.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.