Llanenddwyn

Oddi ar Wicipedia
Llanenddwyn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.789486°N 4.104229°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan ger Dyffryn Ardudwy, Gwynedd yw Llanenddwyn ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Yn hanesyddol bu'n blwyf yng nghantref Ardudwy.[1] Fe'i lleolir milltir i'r de o Harlech i'r gorllewin rhwng y ffordd A496 a'r arfordir.

Hanes a hynafiaethau[golygu | golygu cod]

Cysegrir eglwys y blwyf i'r Santes Enddwyn; ni wyddom ddim o gwbl am ei hanes. Dywedir fod dŵr Ffynnon Enddwyn, 2 filltir o'r eglwys, yn effeithlon i drin cricmala.[1]

Claddwyd y Cyrnol John Jones, Maesygarnedd ym mynwent eglwys y plwyf, sef un o'r "barnwyr" a ddeddfrydodd Siarl I, brenin Lloegr i farwolaeth.[1][2]

Ar gwr Llanenddwyn

Roedd 798 o drigolion yn byw yn y plwyf yn 1833,[3] a 940 erbyn 1849.[1]

Twristiaeth[golygu | golygu cod]

Ceir sawl gwersyll carafanau ar yr arfordir ger y pentref mewn ardal sy'n boblogaidd gan dwristiaid haf.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Llanenddwyn ar wefan British History Online". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-25. Cyrchwyd 2008-10-27.
  2.  Deoniaeth Ardudwy. Esgobaeth Bangor.
  3. (Saesneg) Llanenddwyn ar wefan Genuki


Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato