Plaid Cymru
| Plaid Cymru - The Party of Wales | |
|---|---|
![]() |
|
| Arweinydd | Leanne Wood |
| Sefydlwyd | 5 Awst, 1925 |
| Pencadlys | 18 Park Grove, Caerdydd, CF10 3BN |
| Ideoleg Wleidyddol | Cenedlaetholdeb Cymreig, Democratiaeth sosialaidd |
| Safbwynt Gwleidyddol | Canol-chwith |
| Tadogaeth Ryngwladol | dim |
| Tadogaeth Ewropeaidd | European Free Alliance |
| Grŵp Senedd Ewrop | Greens-EFA |
| Lliwiau | Melyn |
| Gwefan | www.plaidcymru.org |
| Gwelwch hefyd | Gwleidyddiaeth y DU |
Mae Plaid Cymru - The Party of Wales (hefyd Plaid) yn blaid wleidyddol sosialaidd a Chymreig sydd yn galw am hunanlywodraeth i Gymru o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Yr arweinydd presennol yw Ieuan Wyn Jones AS. Dafydd Iwan yw'r Llywydd ond ar yr 8fed o Fehefin 2010 cafodd Jill Evans ASE ei hethol yn ddiwrthwynebiad i'w olynu: cymrodd yr awennau fel Llywydd ym Medi 2010.[1]
Yn draddodiadol y mae Plaid wedi bod gryfaf yn y Gymru Gymraeg yn y gorllewin a'r gogledd ac mae torri trwodd yng Nghymoedd y De yn uchelgais gan y blaid ers blynyddoedd.
Cynnwys |
Hanes Plaid Cymru [golygu]
Gweler hefyd: Plaid Genedlaethol Cymru
Yr oedd pobl fel Emrys ap Iwan a Michael D. Jones wedi galw am hunanlywodraeth i Gymru yn y 19eg Ganrif, ac roedd y Blaid Lafur yn frwd iawn dros hunanlywodraeth i Gymru tan 1918 ond fe bylodd y brwdfrydedd erbyn y dauddegau.
Sefydlwyd "Y Blaid Genedlaethol", sef enw gwreiddiol Plaid Cymru, mewn cyfarfod a gynhaliwyd Ddydd Mercher wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1925 yn Neuadd Maesgwyn, Pwllheli. Rhai o'r sylfaenwyr oedd Saunders Lewis, Lewis Valentine a H. R. Jones. Yr oedd mewn gwirionedd yn uniad o ddau fudiad: Byddin Ymreolwyr Cymru (The Welsh Home Rule Army) a'r Mudiad Cymreig (The Welsh Movement).
Y prif amcanion oedd cael hunanlywodraeth yn null dominiwn i Gymru, amddiffyn y Gymraeg, a chael sedd i Gymru yng Nghynghrair y Cenedloedd.
Yn y tridegau, daeth J. E. Jones yn ysgrifennydd a threfnydd yn 1930, swydd a ddaliodd hyd 1962. Trefnodd ef nifer o ymgyrchoedd, yn cynnwys ymgyrch i gael Gwasanaeth Radio Cymraeg y B.B.C., a gafwyd yn 1935. Trefnwyd deiseb i gael achosion llys yn y Gymraeg.
Yn 1945 daeth Gwynfor Evans yn arweinydd. Cafwyd cynhadledd stormus yn 1949, gyda rhai aelodau adain-chwith yn teimlo fod gormod o bwyslais ar yr iaith Gymraeg a'r ardaloedd gwledig, a rhai yn beirniadu heddychaeth Gwynfor Evans. Yn dilyn y gynhadledd hon, sefydlwyd Plaid Weriniaethol Cymru. Ni chafodd y blaid newydd lawer o lwyddiant etholiadol, a daeth i ben tua chanol y 1950au, ond cafodd gryn ddylanwad ar bolisïau Plaid Cymru. Erbyn 1959 llwyddodd y Blaid i ymladd ugain o seddi a chael 77,571 o bleidleisiau yn yr Etholiad Cyffredinol.
Yn dilyn helynt boddi Cwm Tryweryn gan Gorfforaeth Lerpwl, er y gwrthwynebiad gan bron pob aelod seneddol o Gymru, cynyddodd y gefnogaeth i Blaid Cymru.
Enillodd ei sedd seneddol gyntaf mewn is-etholiad ar y 14 Gorffennaf 1966 pan enillodd Gwynfor Evans, llywydd y blaid ar y pryd. Methodd gadw y sedd yn etholiad 1970. Collodd o 3 pleidlais yn Etholiad Cyffredinol gwanwyn 1974 ond fe enillodd y sedd yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, Hydref 1974. Collodd y sedd wedyn yn 1979.
Bu'r blaid yn agos iawn i ennill is-etholiadau seneddol yn Y Rhondda a Chaerfilli ddiwedd y 1960au, ac roedd yn rheoli Merthyr Tudful am gyfnod.
Enillodd Dafydd Wigley Etholaeth Arfon a Dafydd Elis Thomas Etholaeth Meirionnydd yn etholiad gwanwyn 1974, ac yn eu tro daeth y ddau yn llywydd i'r blaid.
Refferendwm Datganoli 1979 [golygu]
Daeth datganoli i frig yr agenda gwleidyddol ym Mhrydain yn y chwedegau, yn dilyn buddugoliaeth Gwynfor Evans yn is-etholiad Caerfyrddin yn 1966, a Winifred Ewing dros yr SNP yn Hamilton ym 1967 a hefyd is-etholiadau Glasgow Pollock (1967), Rhondda Fawr (1967) a Caerffili (1968). O ganlyniad sefydlwyd Comisiwn Crowther a ddaeth yn Gomisiwn Kilbrandon ar ôl marwolaeth yr Arglwydd Crowther.
Cyflwynodd Plaid Cymru y dystiolaeth ar ffurf pump memorandwm byr: Cenedlaetholdeb Gwleidyddol (Gwynfor Evans), Cenedligrwydd Cymru (Chris Rees), Yr Achos Economaidd dros Ymreolaeth (Phil Williams), Cyfansoddiad Cymru hunan-lywodraethol (Dewi Watcyn Powell), a Perthynas Gyllidol Gwledydd Prydain (Dafydd Wigley).
Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig 1987 enillodd Ieuan Wyn Jones Ynys Môn i'r Blaid ac yna yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992 enillwyd Etholaeth Sir Aberteifi a Gogledd Penfro gan Cynog Dafis.
Yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999, enillodd y blaid dir enfawr, gan gipio etholaethau nad oedd wedi ennill erioed o'r blaen - Conwy, Llanelli, Y Rhondda ac Islwyn hyd yn oed. Roedd hefyd yn rheoli cynghorau lleol unedig Gwynedd, Caerffili a Rhondda Cynon Taf. Plaid Cymru oedd y brif wrthblaid yn nhymor cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda 17 sedd.
Collwyd Etholaeth Ynys Môn yn etholiad San Steffan 2001 ond fe enillwyd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gan Adam Price.
Senedd Ewrop [golygu]
Ar hyn o bryd mae gan Blaid Cymru yn cynrychiolydd yn Senedd Ewrop, sef Jill Evans. Mae Plaid Cymru yn aelod o Gynghrair Rhydd Ewrop (EFA).
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "Jill Evans yn Llywydd newydd Plaid Cymru" Newyddion BBC Cymru, 08.06.2010.
Dolenni allanol [golygu]
| Pleidiau gwleidyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru | ||||||||
|

