Ieuan Wyn Jones
| Ieuan Wyn Jones | |
|
|
|
| Cyfnod yn y swydd 11 Gorffennaf 2007 – 6 Mai 2011 |
|
| Rhagflaenydd | Mike German |
|---|---|
|
|
|
| Geni |
22 Mai 1949 |
| Plaid wleidyddol | Plaid Cymru |
| Galwedigaeth | Cyfreithiwr |
Gwleidydd Cymreig yw Ieuan Wyn Jones (ganwyd 22 Mai 1949). Bu'n Arweinydd Plaid Cymru rhwng 2006 a 2012 ac ef oedd Dirprwy Brif Weinidog Cymru o 2007 hyd 2011,
Cynnwys |
Teulu, Addysg a Gyrfa Gynnar [golygu]
Cafodd ei eni yn Ninbych yn fab i weinidog gyda'r Bedyddwyr ac yn siaradwr Cymraeg. Aeth i Ysgol Ramadeg Pontardawe, ac Ysgol y Berwyn, Y Bala. Astudiodd y gyfraith ym Mholitecnic Lerpwl, lle y cyfarfu â Dafydd Elis Thomas ac yn ddiweddarach aeth i Brifysgol Llundain.
Mae'n briod ag Eirian Jones ac mae ganddynt tri o blant. Yn ei amser hamdden mae'n mwynhau astudio hanes lleol, cerdded a chwaraeon. Yn fab i weinidog mae'n flaenor yn ei gapel lleol ac yn pregethu yn achlysurol [4]. derbyniwyd yn aelod o'r Orsedd yn 2001.
Gweithiodd fel cyfreithiwr o 1974 tan ei ethol yn aelod seneddol dros Ynys Môn yn 1987.
Bu'n Gadeirydd Plaid Cymru rhwng 1980 a 1982 a rhwng 1990 a 1992. Ef oedd Cyfarwyddwr Ymgyrchu y Blaid yn Etholiadau Cynulliad 1999.
Cynrychiolodd Sir Fôn fel aelod seneddol dros Blaid Cymru o 1987 hyd 2001 ac yn y Cynulliad o Fai 1999 hyd y presenol. Daeth yn Llywydd Plaid Cymru yn dilyn ymddeoliad Dafydd Wigley ac yn dilyn etholiad 2003 daeth Dafydd Iwan yn Lywydd, ac etholwyd Ieuan Wyn Jones yn Arweinydd Grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad. Cymerodd drosodd o Mike German fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru yn y llywodraeth glymblaid Llafur - Plaid Cymru yn 2007, a daliodd y swydd hyd i'r Blaid Lafur ffurfio llywodraeth leiafrifol yn 2011. Yn 2007 fe enwyd Jones yn "Wleidydd y Flwyddyn" gan BBC Cymru, ar eu rhaglen am.pm..[1]
Arddull personol [golygu]
Disgrifir Jones fel cyd-drafodwr craff iawn, ac yn "ddyn o egwyddorion, sydd hefyd yn ddyn dibynadwy ac yn wrandawr da."[2] Cyfarfu Dafydd Elis-Thomas, Llywydd y Cynulliad gyda Ieuan Wyn Jones dros 30 mlynedd yn ôl mewn coleg yn Lerpwl (y Liverpool Polytechnic) a dywedodd amdano, "mae'n drefnydd da o gryfder anferthol".[2] Dywedodd hefyd fod Jones yn siarad gyda phob aelod o'i grwp yn unigol cyn gwneud penderfyniad, a bod Llywodraeth y Cynulliad yn cyflawni'r hyn mae'n ei addo.
Mae ei arddull yn llawer mwy addfwyn a thawel nag arddull Rhodri Morgan.[2] Disgrifiwyd Jones gan arweinydd y Blaid Geidwadol fel "person y medrwch ddibynnu arno" ac "mae ganddo bâr saff iawn o ddwylo... arweinydd da hefyd i'w blaid."[2]
Pragmatydd ydy Jones yn y bôn[3] gan lywio'i ffordd drwy'r canol - rhwng elfennau sosialaidd aelodau de Cymru ac ymgyrchwyr iaith Môn a Gwynedd. Tra'n siarad am sefyllfa Gogledd Iwerddon yn Stormont ar 16 Gorffennaf 2007, dywedodd Jones, "Gwelsom yng Nghymru, hefyd, bleidiau'n dod at ei gilydd i rannu rhaglen llywodraethu a rhannu'r penderfyniad i lwyddo i wella ansawdd bywydau pobl, yr holl bobl drwy'r holl wlad...".[4]
Llyfryddiaeth [golygu]
- Ewrop: Y Sialens i Gymru. Gwasg Taf 1996 (Dwyieithog)
- Y Llinyn Arian - Agweddau o Fywyd a Chyfnod Thomas Gee 1815 - 1898. Gwasg Gee 1998
- O Gynulliad i Senedd. Darlith Flynyddol Sefydliad Gwleidyddol Cymru 2001. Dwyieithog.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Jones takes top politician award. BBC (5 Rhagfyr 2007).
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Adrian Browne (11 Gorffennaf 2007). A 'remarkable journey' for Jones. BBC.
- ↑ The Comeback Kid. BBC (15 Medi 2003).
- ↑ Jones and Brown meet at Stormont. BBC (16 Gorffennaf 2007).
Dolenni allanol [golygu]
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Keith Best |
Aelod Seneddol dros Ynys Môn 1987 – 2001 |
Olynydd: Albert Owen |
| Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
| Rhagflaenydd: swydd newydd |
Aelod Cynulliad dros Ynys Môn 1999 – presennol |
Olynydd: deiliad |
| Swyddi gwleidyddol | ||
| Rhagflaenydd: Dafydd Wigley |
Arweinydd yr Wrthblaid yn y Cynulliad 2000 – 2007 |
Olynydd: Nick Bourne |
| Rhagflaenydd: gwag Mike German (hyd 2003) |
Dirprwy Brif Weinidog Cymru 2007 – 2011 |
Olynydd: swydd yn wag |
| Swyddi gwleidyddol pleidol | ||
| Rhagflaenydd: Dafydd Wigley |
Llywydd Plaid Cymru 2000 – 2003 |
Olynydd: Dafydd Iwan |
| Rhagflaenydd: Dafydd Iwan (fel Llywydd) |
Arweinydd Plaid Cymru 2006 – 2012 |
Olynydd: Leanne Wood |
| Arweinwyr Plaid Cymru |
|---|
|
Lewis Valentine • Saunders Lewis • John Edward Daniel • Gwynfor Evans • Dafydd Wigley • Dafydd Elis-Thomas • Dafydd Wigley • Ieuan Wyn Jones • Dafydd Iwan Ieuan Wyn Jones • Leanne Wood |
- Genedigaethau 1949
- Gwleidyddion Cymreig
- Gwleidyddion Plaid Cymru
- Cyfreithwyr Cymreig
- Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig
- Aelodau Llywodraeth Cynulliad Cymru
- Dirprwy Brif Weinidogion Cymru
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999–2003
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2003–2007
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2007–2011
- Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011–2015
- Pobl o Ddinbych