Adam Price

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Adam Robert Price (ganwyd 23 Medi 1968) yn gyn-aelod seneddol Plaid Cymru yn cynrychioli etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Enillodd y sedd oddiwrth y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol 2001. Yn fab i gyn-lowr a phaffiwr cafodd ei eni ar 23 Medi 1968, yn Rhydaman. Mae'n un o ddau AS yng Nghymru sydd wedi datgan yn gyhoeddus ei fod yn hoyw. Safodd yn Etholiad Cyffredinol 1992 yn etholaeth Gŵyr.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman. Cafodd radd BA ym Mhrifysgol Caerdydd yn 1991.

Ar 25 Awst, 2004, cyhoeddodd Price ei fod am ddechrau proses o uchelgyhuddiad (impeachment) yn erbyn Tony Blair, gyda chefnogaeth aelodau seneddol Plaid Cymru a'r SNP. Doedd uchelgyhuddiad ddim wedi cael ei ddefnyddio yn y DU am 150 o flynyddoedd. Pe buasai'n llwyddianus buasai'n rhaid i Blair sefyll achos yn Nhŷ'r Arglwyddi, ond methiant oedd y mesur.

Ar 5 Mai, 2005 cafodd ei ailethol yn AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gyda chynnydd yn ei fwyafrif (17.5%).

Ar 31 Hydref, 2006, agorodd ddadl tair awr ar y ymchwiliad i'r Rhyfel yn Irac, y ddadl gyntaf ar y pwnc mewn dros ddwy flynedd. Cynigiodd yr SNP a Phlaid Cymru sefydlu pwyllgor o saith AS blaenllaw i adolygu "y ffordd y cafodd dyletswyddau'r llywodraeth eu cyflawni ynglŷn â'r rhyfel yn Irac". Collwyd y cynnigiad o 298 pleidlais i 273, mwyafrif tenau o 25 i'r llywodraeth, ond enillodd gefnogaeth sawl AS gan gynnwys Glenda Jackson ac ASau Llafur 'rebel' eraill.

Dolenni allanol [golygu]

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Alan Wynne Williams
Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
20012010
Olynydd:
Jonathan Edwards