BBC Cymru
Adran neu ranbarth cenedlaethol o'r BBC ar gyfer Cymru yw BBC Cymru Wales (BBC Cymru ar lafar ac yn gyffredinol yn Gymraeg). Gyda phencadlys yn y Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf, Caerdydd, mae'n cyflogi dros 1200 o bobl ac yn cynhyrchu ystod eang o raglenni teledu a radio a gwasanaethau ar-lein yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ceir dwy sianel deledu Saesneg, sef BBC One Wales a BBC Two Wales, a dau wasanaeth radio cenedlaethol, sef BBC Radio Cymru yn Gymraeg a BBC Radio Wales yn Saesneg.
Canolfan Ddarlledu Llandaf yw'r un fwyaf gan y BBC y tu allan i Lundain.
[golygu] Gwasanaethau Cymraeg
BBC Cymru sy'n gyfrifol am gynhyrchu rhaglenni Newyddion S4C a'r gyfres sebon boblogaidd Pobol y Cwm.
BBC Radio Cymru yw'r gwasanaeth radio cenedlaethol Cymraeg. Fe'i crewyd yn 1977, gyda BBC Radio Wales.
Yn ogystal mae gan BBC Cymru nifer o dudalennau ar wefan y BBC, yn Gymraeg a Saesneg.
