Saunders Lewis

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Saunders Lewis
Saunders Lewis.jpg
Geni John Saunders Lewis
15 Hydref 1893(1893-10-15)
Wallasey, Lerpwl, Lloegr
Marw 1 Medi 1985 (91 oed)
Galwedigaeth Nofelydd, bardd, dramodydd
Cenedligrwydd Cymro
Addysg Prifysgol Lerpwl
Math o lên drama, beirniadaeth lenyddol, barddoniaeth
Gwaith nodedig Siwan, Blodeuwedd, Monica, Buchedd Garmon, Brad
Dylanwad Emrys ap Iwan, W. B. Yeats, Paul Claudel
Wedi dylanwadu sawl dramodydd Cymraeg

Dramodydd, bardd, nofelydd, ysgolhaig, beirniad llenyddol a gwleidydd oedd John Saunders Lewis (15 Hydref 18931 Medi 1985). Cafodd ei eni yn Wallasey, ger Lerpwl, yn fab i weinidog Methodist Calfinaidd, y Parch Lodwig Lewis. Roedd y tad yn hanu o Sir Gaerfyrddin. Ganwyd ei fam yn Llundain ond roedd y teulu'n hanu o Sir Fôn. Roedd yn un o sylfaenwyr Plaid Cymru. Bu ei ddarlith radio enwog Tynged yr Iaith, a draddodwyd yn 1962, yn sbardun i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ond fel dramodydd y cydnabyddir ef fwyaf.

Cynnwys

Ei yrfa [golygu]

61 Falkland Road, Lerpwl: y tŷ lle'i ganed.

Yn fab i weinidog Methodistaidd, ymunodd â 'r Eglwys Babyddol yn 1932, yn bennaf oherwydd dylanwad ei wraig Margaret. Mynychodd ysgol y bechgyn yn Liscard, sef rhan o dref Wallasey ac yna Prifysgol Lerpwl[1] ond ar dorriad y Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd â'r South Wales Borderers[1]. Yn 1936 llosgodd Saunders, ynghyd â D. J. Williams a Lewis Valentine, adeiladau yr ysgol fomio ym Mhenyberth ac o ganlyniad collodd ei swydd fel darlithydd yng Ngholeg Prifysgol Abertawe.

Cafodd ei benodi'n Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn 1957 ymddeolodd i'w gartref ym Mhenarth, ger Caerdydd ac ymroddodd i ysgrifennu ar gyflwr gwleidyddol ac ieithyddol Cymru. Yn 1962 cyhoeddodd Tynged yr Iaith, sef darlith Radio BBC Cymru; y canlyniad fu sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Fe enwebwyd Saunders Lewis am wobr lenyddol Nobel yn 1971 ac yn 2005 cafodd ei enwi fel y degfed Cymro pwysicaf erioed mewn pôl piniwn a wnaed gan y BBC. [2]

Ei waith llenyddol [golygu]

Ei ddramau mwyaf yw Blodeuwedd a Siwan, sy'n ymwneud â'r gwrthdaro rhwng cariad a chwant. Yn ei nofelau Monica a Merch Gwern Hywel, yn ogystal ag yn Siwan, mae cytundeb priodasol yn holl bwysig ac yn hanfodol er lles cymdeithas. Roedd yn gredwr cryf yn y traddodiad Ewropeaidd, a gwelodd fod dylanwad Lloegr yn rhwystr i Gymru ddeall y traddodiad hwnnw. Dau ddylanwad mawr arno oedd Emrys ap Iwan a W.B. Yeats.

Llyfryddiaeth [golygu]

Barddoniaeth [golygu]

Cyfrol o'i farddoniaeth ydy "Siwan a Cherddi Eraill", er fod y gerdd Siwan hefyd yn cael ei chyfri fel drama fydryddol.

Casglwyd ei gerddi ynghyd yn y gyfrol Cerddi Saunders Lewis (gol. R. Geraint Gruffydd).

Nofelau [golygu]

Dramâu [golygu]

Casglwyd ei holl ddramâu ynghyd yn y ddwy gyfrol, Dramâu Saunders Lewis, dan olygyddiaeth Ioan Williams.

Beirniadaeth Lenyddol [golygu]

  • A School of Welsh Augustans (1924)
  • Ysgrifau Dydd Mercher
  • Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (Caerdydd, 1931)
  • Meistri'r Canrifoedd (gol. R. Geraint Gruffydd; casgliad)
  • Meistri a'u Crefft (gol. Gwynn ap Gwilym; casgliad)

Ysgrifau Gwleidyddol [golygu]

Darllen pellach [golygu]

  • Saunders Lewis Bruce Griffiths. Cyfres Writers of Wales
  • Tân yn Llŷn Dafydd Jenkins,(hanes Penyberth)
  • Un Bywyd o Blith Nifer: Cofiant Saunders Lewis T. Robin Chapman
  • Presenting Saunders Lewis (gol. Alun R. Jones & Gwyn Thomas)
  • Annwyl Kate, Annwyl Saunders (gol. Dafydd Ifans; llythyraeth Saunders â Kate Roberts)

Cyfeiriadau [golygu]

  1. 1.0 1.1 [1] Archifau Cymru; adalwyd 03/11/2012
  2. Bevan is ultimate Welsh hero adalwyd 12-04-07
Arweinwyr Plaid Cymru
Llywyddion (cyn 2006)

Lewis ValentineSaunders LewisJohn Edward DanielGwynfor EvansDafydd WigleyDafydd Elis-ThomasDafydd WigleyIeuan Wyn JonesDafydd Iwan

Arweinwyr (ers 2006)

Ieuan Wyn JonesLeanne Wood