Amgylcheddaeth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Delwedd hanesyddol y Farblen Las. Mae amgylcheddaeth yn achos sy'n ymwneud â'r holl ddaear.

Athroniaeth eang yw amgylcheddaeth, a mudiad cymdeithasol sy'n ymwneud ag achosion ynglŷn â chadwraeth amgylcheddol a gwella cyflwr yr amgylchedd. Caiff amgylcheddaeth ac achosion amgylcheddol eu cynyrchioli'n aml gan y lliw gwyrdd.[1]

Amgylcheddaeth fel mudiad cymdeithasol[golygu]

Gellir diffinio amgylcheddaeth fel mudiad cymdeithasol sy'n ceisio dylanwadu ar y broses wleidyddol drwy lobïo, ymgyrchu ac addysg er mwyn amddiffyn adnoddau naturiol ecosystemau. Gan gydnabod cyfranogiaeth y dynolryw mewn ecosystemau, mae'r symudiad amgylcheddol yn canolbwyntio ar ecoleg, iechyd, a hawliau dynol.

Amgylcheddwr yw'r enw a roddir ar berson sy'n eiriolwr dros reolaeth adnewyddadwy adnoddau a stiwardiaeth yr amgylchedd naturiol, drwy newidiadau mewn polisi cyhoeddus neu ymddygiad unigolion. Mae amgylcheddwyr a chymdeithasau amgylcheddol yn ceisio cynnig llais dros yr amgylchedd ym materion dynol, drwy amryw o ffyrdd megis ymgyrchu a phrotestiadau.

Mae amgylcheddaeth wedi cael ei chyhuddo gan ei bychanwyr dros y blynyddoedd diweddar, o fod gyffelyb i grefydd.[2]

Hanes[golygu]

Mae pryderon dros amddiffyn yr amgylchedd wedi bod mewn amryw o ffurf ar draws y byd a drwy gydol hanes. Er engraifft, yn y Dwyrain Canol ysgrifennwyd yr ysgrifau cynharaf sy'n ymwneud â llygredd amgylcheddol yn y Cytundebau Meddygol Arabaidd yn ystod y Chwyldro Amaethyddol Arabaidd rhwng yr 8fed a'r 13eg ganrif, gan lenorion megis Alkindus, Costa ben Luca, Rhazes, Ibn Al-Jazzar, al-Tamimi, al-Masihi, Avicenna, Ali ibn Ridwan, Isaac Israeli ben Solomon, Abd-el-latif, ac Ibn al-Nafis. Roedd ganddynt bryderon ynglŷn â halogiad aer, halogiad dŵr, halogiad pridd, camdriniaeth gwastraff solet, ac asesiadau amgylcheddol o ardaloedd arbennig.[3][4]

Yn Ewrop, gwaharddwyd llosgi glo-môrol gan Edward I, brenin Lloegr mewn cyhoeddiad yn Llundain ym 1272, wed i'r mwg ddechrau dod yn broblem.[5] Roedd y tanwydd mor gyffredin yn Lloegr y cafodd yr enw glo-môrol gan y gallai gael ei gasglu o'r traethau a'i gludo mewn berfa o rai llefydd. Parhaodd llygredd aer i fod yn broblem yn Lloegr, yn enwedig tuag at ddiwedd y Chwyldro Diwydiannol, ac hyd hanes diweddar, er enghraifft Mwrllwch Mawr 1952.

Tarddiad y mudiad amgylcheddol cyfoes[golygu]

Yn Ewrop, y Chwyldro Diwydiannol a arweiniodd tuag at lygredd amgylcheddol fel y ddeallwn hi heddiw. Arweiniodd ymddangosiad ffatrioedd a llosgi cryn-gymaint o lo a thanwydd ffosil tuag at lygredd aer ar raddfa digynsail, ac ychwanegodd allyriannau cemegolion diwydiannol at y llwyth gyda charffosiaeth dynol heb ei drin.[6] Cydlwynwyd y cyfreithiau amgyclheddol cyfoes ar raddfa eang am y tro cyntaf gyda Deddfau Alcalïau yn Y Deyrnas Undeig ym 1863, er mwyn rheoli'r llygredd aer niweidiol (asid hydroclorig nwyol) a allyrrwyd gan proses Leblanc, i greu lludw soda. Datblygodd amgylcheddaeth o'r symudiad mwynderau, a fu'n ymateb i ddiwydiannaeth, twf dinasoedd, a llygredd dŵr a oedd yn gwaethygu. Ym Mhrydain Fictorianaidd, bu symudiad "Yn ôl at natur" cynnar, a ragdrawodd amgylcheddaeth cyfoes, a cafodd ei hyrwyddo gan bobl deallus megis John Ruskin, William Morris ac Edward Carpenter, a oedd yn erbyn y cysyniad o brynwriaeth, llygredd a gweithgareddau eraill a oedd yn niweidiol i'r byd naturiol.[7][8] Mae eu syniadau hwy wedi ysbrydoli symudiadau proto-amgylcheddol yn y Deyrnas Unedig megis y Commons Preservation Society, y Kyrle Society, Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar a'r mudiad Garden city, yn ogystal ag annog y Cynghrair Sosialaidd a symudiad The Clarion i eirioli mesuriadau cadwraeth natur.[7]

Gellir dilyn gwreiddiau'r symudiad amgylcheddol yn yr Unol Daleithiau, cyn belled nôl ag 1739, er na elwyn yn amgylcheddaeth ar y pryd a cysidrwyd i fod yn gadwraeth hyd yr 1950au. Deisebodd Benjamin Franklin a thrigolion eraill Philadelphia, gan ddyfynu "hawliau cyhoeddus", Cynulliad Pennsylvania i stopio dympio gwastraff a chael gwared ar y tanerdai o ardal fasnachol Philadelphia. Ymestynodd y symudiad Americanaidd yn ystod yr 1880au, oherwydd pryderon ynglyn ag amddiffyn adnoddau naturiol y Gorllewin, gdag unigolion megis John Muir a Henry David Thoreau yn gwneud cyfraniadau athroniaethol allweddol. Roedd gan Thoreau ddiddordeb mewn pethynas pobl â natur, ac astudiodd hyn gan fyw yn agos at natur â bywyd syml. Adroddodd ei brofiadau yn y llyfr Walden, a ddadleuodd y dylai pobl ddod yn agosach at natur. Daeth Muir i gredu mewn hawl cynhenid natur, yn enwedig wedi treulio cyfnod yn heicio yn Yosemite Valley ac astudio'r ecoleg a'r daeareg. Lobïodd y gyngres yn llwyddianus i ffurfio Parc Cenedlaethol Yosemite ac aeth ymlaen i sefydlu'r Sierra Club. Daeth yr egwyddorion o gadwraeth a hawliau cynhenid natur yn greigwely amgylcheddaeth cyfoes.

Parhaodd poblogrwydd a chydnabyddiaeth syniadau amgylcheddol i gynyddu yn ystod yr 20fed ganrif. Dechreuwyd ymdrechion i achub bywyd gwyllt, yn arbennig y Bualod Americanaidd. Fe helpodd marwolaeth y Golomen Passenger olaf a pheryglaeth y Bualod Americanaidd i ganolbwyntio meddyliau'r cadwraethwyr a dod a'u pryderon yn fwy poblogaidd. Sefydlwyd y Gwasanaeth Parc Cenedlaethol ym 1916 gan Arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd, Woodrow Wilson.

Ym 1949, cyhoedwyd A Sand County Almanac gan Aldo Leopold. Eglurodd gred Leopold y dylai dynolryw ddal mwy o barch moesol tuag at yr amgyclhedd a'i fod yn anfoesol i'w niweidio. Cyfeirir at y llyfr weithiau fel y llyfr mwyaf dylanwadol ar gadwraeth.

Defnyddwyd ffotograffaeth i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am yr angen i amddiffyn tir drwy gydol yr 1950au, 1960au, yr 1970au ac yn ddieddarach, gan recriwtio aelodau newydd i'r cymdeithasau amgyclheddol. Creodd David Brower, Ansel Adams a Nancy Newhall Cyfres Fformat Arddangosfa'r Sierra Club, a helpodd codi ymwybyddiaeth amgylcheddol y cyhoedd a dod a llu o aelodau newydd i'r Sierra Club a'r symudiad amgylcheddol yn gyffredinol. Ataliodd "This Is Dinosaur", a olygwyd gan Wallace Stegner gyda ffotograffau Martin Litton a Philip Hyde, adeiladu argaeau yn y Gofadail Cenedlaethol Deinosor gan ddod yn ran o fath newydd o actifyddiaeth a elwyd yn amgylcheddaeth wedi ei gyfuno gyda delfrydau chadwraeth Thoreau, Leopold a Muir gyda hysbysebu trawiadol, lobïo, dosbarthiad llyfrau, ymgyrchoedd ysgrifennu llythyrau a mwy. Roedd y defnydd cryf o ffotograffaeth ynghyd a llên ar gyfer cadwraeth yn dyddio'n ôl i sefydliad Parc Cenedlaethol Yosemite, pan darbwyllwyd Abraham Lincoln i ddiogelu'r tirwedd hardd. Galfanyddwyd gwrthwynebiad y cyhoedd at adeiladau argaeau gan yr arddangosfa Sierra Club, ac amddifynnodd nifer o drysorau eraill cenedlaehol yn ogystal. Arweiniodd y Sierra Club clymbleidiau o rwpiau amgyclheddol yn aml, gan gynnwys y Wilderness Society a nifer eraill. Wedi canolbwyntio ar amddiffyn diffeithychau yn yr 1950au a'r 1960au, ehangodd y Sierra Club a grwpiau eraill eu ffocws i gynnwys materion eraill megis llygredd dŵr ac aer, rheolaeth popblogaeth, a ffrwyno camdriniaeth adnoddau naturiol.

Cyhoeddwyd Silent Spring ym 1962 gan y biolegydd Americanaidd Rachel Carson. Catalogodd y llyfr effeithiau amgylcheddol y chwistrelliad diwahân o DDT yn yr Unol Daleithiau, a cwestiynodd y and questioned the rhesymeg tu ôl i ryddhau niferoedd mawr o gemegolion i'r amgylchedd heb ddeallt eu heffaith ar egoleg na iechyd dynol yn gyfan gwbl. Cynnigiodd y llyfr fod DDT a phlaladdwyr eraill yn achosi cancr a bod eu defnydd amaethyddol yn fygythiad i fywyd gwyllt, yn enwedig adar.[9] Arweiniodd y pryder cyhoeddus a ddilynodd tuag at creadigaeth yr United States Environmental Protection Agency ym 1970, a waharddodd defnydd DDT yn yr Unol Daleithiau ym 1972. Mae defnydd cyfyngedig o DDT yn rheolaeth fector clefyd yn parhau hyd heddiw mewn hrai ardaloedd o'r byd ac mae'n parhau i fod yn ddadleuol. Cymynrodd y llyfr oedd i gynhyrchu ymwybyddiaeth llawer mwy ynglyn a materion amgylcheddol a diddordeb yn sut mae pobl yn effeithio'r amylchedd. Gyda'r diddordeb newydd hyn, tyfodd diddordeb mewn problemau megis llygredd aer, gorlifiadau petroliwm. Ffurfiwyd carfannau pwyso, yn nodedig Greenpeace a Chyfeillion y Ddaear.

Ffurfiwyd y Symudiad Chipko movement yn India yn yr 1970au; odan ddylanwad Mohandas Gandhi, sefydlwyd gwrthwynebiad heddychlon i ddatgoedwigo gan gofleidio coed yn llythrennol (ac arwain at y term Saesneg "tree huggers"). Bu eu dulliau heddychlon o brotstio a'u arwyddair "mae ecoleg yn economi parhaol" yn ddylanwadol iawn.

Erbyn canol yr 1970au, teimlodd nifer ein bod ar gyfyl trychineb amgyclheddol. Dechreuodd y Symudiad Back-to-the-land ffurfio syniadau o foesoldeb amgyclheddol, a gyfunwyd gyda theimladau gwrth-ryfel Fietnam a phynciau eraill gwleidyddol. Roedd yr unigolion rhain yn byw y tu allan i'r gymdeithas confensiynol a dechreuont gymryd ymlaen theorïau amgyclheddol mwy radical megis ecoleg dwfn. Tua'r adeg hwn y dechreuodd amgylchedaeth cyffredin ddangos mwy o rym gyda arwyddo'r Ddeddf Rhywogaethau Mewn Perygl ym 1973 a sefydliad y CITES ym 1975.

Ym 1979, cyhoeddodd James Lovelock, cyn-wyddonwr NASA, Gaia: A new look at life on Earth, a gynnigiodd Damcaniaeth Gaia; sy'n cynnig y gall bywyd ar y ddaear gael ei ddealt yn nhermau un organeb. Daeth hyn yn ran bwysig o'r ideoleg Gwyrdd Dwfn. Mae dalau wedi bod ers hynnu rhwng yr amgylcheddwyr cyffredin a dilynwyr mwy radical yr ideoleg Gwyrdd Dwfn.

Roedd amgylcheddeth hefyd wedi newid i ddelio gyda materion newydd megis cynhesu byd-eang a pheirianeg genetig.

Y symudiad amgylcheddol[golygu]

Mae'r symudiad amgylcheddol (term sydd weithiau'n cynnwys y symudiadau cadwraeth a gwyrdd) yn symudiad cymdeithasol a gwleidyddol amrywiol. Mae amgylchedwyr, mewn termau cyffredin, yn eirioli'r rheolaeth adnewyddadwy o adnoddau, ac amddiffyniaeth (ac adferiad lle mae'n angenrheidiol) o'r [amgylchedd naturiol), drwy weithredu newidiadau ym mholisïau cyhoeddus ac ymddygiad unigolion. Wrth gydnabod cyfranogaeth y dynolryw mewn ecosystemau, canolir y symudiad ogwmpas ecoleg, iechyd, a hawliau dynol. Mae'r symudiad hefyd, drwy gydol hanes, wedi cael ei ymgorffori mwen crefydd. Cynyrchiolir y symudiad gan ystod o gymmdeithasau, ond mae ganddi ddemograffeg ifengach na sy'n gyffredin mewn symudiadau. Oherwydd maint mawr ei aelodaeth, sy'n amrywio a'u creoday cryf, nid yw'r symudiad yn hollol unedig. Mae rhai'n dadlau fod angen moes o rhyw fath ar frys ym mhob adran o'r symudiad, ac fod symudiad ehangach yn beth da. Mae rhai'n dadlau i'r gwrthwyneb, y gall y diffyg undod fod yn wendid wrth ymdrin â gwrthwynebiad cryf gwleidyddol digydymdeimlad a drymoedd diwydiannol.

Y farchnad rydd[golygu]

Mae theori amgylcheddaeth y farchnad rydd yn dadlau mai'r argues that the farchnad rydd, hawliau eiddo, a chyfraith camwedd sy'n darparu'r dulliau gorau er mwyn to diogelu iechyd ac adnewyddadwyedd yr amgylchedd. Mae'n cysidro for stiwardiaeth amgylchedd yn beth naturiol, yn ogystal a diarddel llygrwyr a troseddwyr eraill yn erbyn yr amgylchedd gan ddefnyddio achosion llys unigol ac ar y cyd.

Cadwraeth[golygu]

Defnyddir y term cadwraeth amgylcheddol yn yr Unol Daleithiau i gyfeirio at yr arfer o osod adnoddau naturiol ar gadw er mwyn atal y niwed a achosir gan weithgareddau dynol, megis torri coed, mwyngloddio, hela a physgota; byddent yn aml yn cyfnewid y gweithgareddau rhain am weithgareddau eraill megis twristiaeth a hamdden.[10] Gellir deddfu gyda rheolau a chyfreithiau er mwyn cadwraeth yr adnoddau naturiol.

Cymdeithasau a chynadleddau[golygu]

Gall cymdeithasau amgylcheddol weithredu'n fyd-eang, yn rhanbarthol, yn genedlaethol neu'n lleol; gallent gael eu rhededeg gan y llywodraeth neu fod yn breifat (Cymdeithas An-llywodraethol). Er fod tueddiad i weld amgylcheddaeth fel rhywbeth a ganolir yn y Gorllewin neu America, mae gan bron pob gwlad rhywfaint o actifyddiaeth amgylcheddol. Mae nifer o rŵpriau sy'n cysegru eu hunain at ddatblygu cymdeithasol a iawnder cymdeithasol hefyd yn rhoi sylw i faterion amgylcheddol.

Mae rhai cymdeithasau o wirffoddolwyr; megis Ecoworld, sy'n canolbwyntio ar waith gwirfoddoli a thîm ynghylch materion amgylcheddol. Mae rhai cymdeithasau Americanaidd, megis y Natural Resources Defense Council a'r Environmental Defense Fund, yn arbennigo mewn dod ad achosion llys (tacteg sydd iw weld yn gymharol ddefnyddiol yr yr Unol Daleithiau). Mae grwpiau eraill Americaniadd megis y National Wildlife Federation, The Nature Conservancy, a The Wilderness Society, a grwpiau byd-eang megis World Wide Fund for Nature a Chyfeillion y Ddaear yn dosbarthu gwybodaeth, ac yn cymryd rhan mewn gwrandawiadau cyhoeddus, lobïo, cynnal gwrthdystiadau, a gallent brynu tir er mwyn cadwraeth. Mae hefyd grwpiau llai megis Wildlife Conservation International, sy'n gwneud ymchwil ar rywogaethau ac ecosystemau sydd mewn perygl. Mae cymdeithasau mwy radical megis Greenpeace, Earth First!, a'r Earth Liberation Front, wedi gwrthwynebu yn uniongyrchol gweithgareddau y maent yn eu cysidro i fod yn niweidiol i'r amgylchedd. Tra bod Greenpeace wedi eu cysegru i wrthdaro di-drais fel modd o dystio yn erbyn camymddwyn a chamdriniaeth amgylcheddol gan ddod a materion i'r parth cyhoeddus er mwyn gallu eu trafod, mae'r Earth Liberation Front yn gymdeithas tanddaearol sy'n dinistrio eiddo, rhyddhau anifeiliaid o'u cewyll a gweithgareddau eraill anghyfreithlon, ond mae tactegau tebyg i hyn yn anarferol iawn yn y symudiad amgylcheddol.

Ar lefel rhyngwladol, bu pryder ynglyn â'r amgylchedd yn destun cynhadledd y Cenhedloedd Unedig yn Stockholm ym 1972, a fynychwyd gan dros 114 gwlad. O'r cynhadledd hwn y datblygodd Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig a Chynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar yr Amgylchedd a Datblygaeth ym 1992. Mae cymdeithasau eraill sy'n cefnogi datblygu polisïau amgylcheddol yn cynnwys y Commission for Environmental Cooperation, Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop a'r Intergovernmental Panel on Climate Change.

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Cat Lincoln (Gwanwyn 2009). Light, Dark and Bright Green Environmentalism. Green Daily. Adalwyd ar 2009-11-02.
  2.  John M. Ostrowski. Environmentalism as Religion.
  3. L. Gari (Tachwedd 2002). Arabic Treatises on Environmental Pollution up to the End of the Thirteenth Century, Cyfrol 8, Rhifyn 4. White Horse Press, tud. 475–488. DOI:10.3197/096734002129342747URL
  4. Science and Islam gan Ehsan Masood
  5.  Deadly Smog. PBS (2003-01-17). Adalwyd ar 2006-08-02.
  6.  James R. Fleming; Bethany R. Knorr. History of the Clean Air Act. American Meteorological Society. Adalwyd ar 2006-02-14.
  7. 7.0 7.1 Peter C. Gould (1988). Early Green Politics. Brighton: Harvester Press
  8. Derek Wall (1994). Green History: A Reader. Llundain: Routledge, tud. 9-14
  9. Rachel Carson (1962). Silent Spring. Boston: Houghton Mifflin
  10. William P. Cunningham; et al. (1998). Environmental encyclopedia. Gale Research. ISBN 081039314X

Llyfryddiaeth[golygu]

  •  Jeremiah Hall. History Of The Environmental Movement. Adalwyd ar 2006-11-25.
  •  William Kovarik. Environmental History Timeline. Adalwyd ar 2006-11-25.
  •  Luke Martell (1994). Ecology and Society: An Introduction. Polity Press.
  • de Steiguer, J. Edward. 2006. The Origins of Modern Environmental Thought. The University of Arizona Press. Tucson. 246 pp.
  • John McCormick. 1995. The Global Environmental Movement. John Wiley. London. 312 pp.
  • Marco Verweij and Michael Thompson (eds), 2006, Clumsy solutions for a complex world: Governance, politics and plural perceptions, Basingstoke: Palgrave Macmillan.