Avicenna

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio


Meddyg ac athronydd Persaidd oedd Abū ʿAlī al-Ḥusayn ibn ʿAbdullāh ibn Sīnā (Perseg: ابو علی الحسین ابن عبدالله ابن سینا), mwy adnabyddus yn y gorllewin wrth y ffurf Ladin o'i enw, Ibn Sina, sef Avicenna (tua 980 - 1037). Roedd hefyd yn wyddonydd, seryddwr, mathemategydd, seicolegydd, milwr, gwladweinydd a bardd. Ysgrifennodd yn Arabeg yn bennaf, ond cyfansoddodd sawl gwaith yn Berseg hefyd, yn enwedig ar gyfer ei gerddi. Barddoniaeth yn hytrach na rhyddiaith oedd ei gyfrwng arferol, hyd yn oed yn achos ei weithiau gwyddonol.

Ganed ef yn Bukhara, Persia, tua 980. Roedd ei dad yn ysgolhaig Ismaili adnabyddus. Addysgwyd ef gartref gan diwtor, a dangosodd dalent eithriadol yn ieuanc iawn. Ysgrifennodd tua 450 o draethodau ar wahanol bynciau; mae tua 240 wedi goroesi. O'r rhain, mae tua 150 yn trafod athroniaeth a tua 40 yn trafod meddygaeth. Ei weith enwocaf yw Llyfr Gwellhau, gwyddoniadur meddygol, a Canon Meddygaeth, a fu'n lyfr gosod ym mhrifysgolion y byd Islamaidd ac Ewrop hyd ddechrau'r 19eg ganrif. Ystyrir mai ef oedd tad meddygaeth fodern.