Sylffwr deuocsid

Oddi ar Wicipedia
Sylffwr deuocsid
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathsulfur oxide Edit this on Wikidata
Màs63.962 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolSo₂ edit this on wikidata
Rhan oresponse to sulfur dioxide, cellular response to sulfur dioxide Edit this on Wikidata
Yn cynnwysocsigen, sylffwr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Nwy di-liw yw sylffwr deuocsid (SO2) ag iddo arogl treiddgar, taglyd. Prif ffynhonnell sylffwr deuocsid yw llosgi tanwydd ffosil mewn gorsafoedd pwer, purfeydd olew a gweithfeydd diwydiannol mawrion eraill a reolir gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Y sector tanwydd ag ynni yw’r ffynhonnell fwyaf o bell ffordd o sylffwr deuocsid o weithgareddau a reolir gan yr Asiantaeth a’r sector hwn hefyd yw’r ffynhonnell genedlaethol fwyaf, gan gyfrannu 73% o’r cyfanswm cenedlaethol. Mae cerbydau modur, bwyleri a thanau mewn cartrefi hefyd yn rhyddhau sylffwr deuocsid.

Gall sylffwr deuocsid arwain at problemau iechyd, ac yn cael effeithiau uniongyrchol ar lystyfiant acy n chyfrannu at law asid. Gellir cludo sylffwr deuocsid dros bellter maith a gall hyd at draean o’r sylffwr a waddodir mewn rhai mannau yn y DU ddeillio o ffynonellau Ewropeaidd.

Effaith ar eich iechyd[golygu | golygu cod]

Gall sylffwr deuocsid lidio’r llygaid a’r pibellau awyr ac yn lidio leinin eich trwyn, gwddf ac ysgyfaint. Gall achosi i chi dagu, i’ch brest dynhau, ac i’ch llwybr anadlu gulhau a fydd yn lleihau llif aer i’ch ysgyfaint. Mae’n llidio y llwybrau anadlu, gan achosi peswch a mwy o fwcws. Mae’n gwaethygu cyflyrau fel asthma a COPD. Mae’n gwneud pobl yn fwy tebygol o gael haint ar y frest. Mae pobl sydd ag asthma yn llawer mwy sensitif i sylffwr deuocsid na phobl heb asthma, felly efallai y bydd hi’n anoddach iddynt anadlu a byddant yn cael pyliau o’r cyflwr pan fydd crynodiad sylffwr deuocsid yn uchel.

Llawer o Garbon Deuocsid a Sylffwr deuocsid yn cael ei allyrru allan o gorsaf pwer.


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol yn unig. Allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r British Lung Foundation.

Am wybodaeth lawn gweler yr [ erthygl wreiddiol] gan y British Lung Foundation neu am driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!