Carbon deuocsid
Oddi ar Wicipedia
Mae Carbon deuocsid (CO2) yn gyfansoddyn cemegol sydd wedi ei greu gan ddwy atom ocsigen ac un atom carbon wedi'u bondio'n gofalent. Mae'n nwy ar dymheredd a gwasgedd safonol ac mae'n bodoli yn atmosffêr y ddaear yn y cyflwr hwn. Ar hyn o bryd, yn fyd-eang, crynodiad y carbon deuocsid yn yr atmosffêr yw tua 383 rhan fesul miliwn ar gyfartaledd er bod hyn yn amrywio - yn dibynnu ar leoliad ac amser. Mae carbon deuocsid yn nwy tŷ gwydr pwysig ar y ddaear gan ei fod yn trawsyrru golau gweledol gan amsugno llawer o is-goch.
Cynhyrchir carbon deuocsid gan bob anifail, planhigyn, ffwng a micro-organeb yn ystod resbiradaeth a defnyddir gan blanhigion yn ystod ffotosynthesis. Mae planhigion yn defnyddio carbon deuocsid yn ogystal â chemegion eraill i greu siwgrau sydd yn cael eu defnyddio fel y deunyddiau crai am dyfiant neu ar gyfer resbiradaeth eto. Mae carbon deuocsid felly'n gydran sylweddol yn y gylchred garbon. Mae carbon deuocsid anorganig yn gynnyrch llosgfynyddoedd a phrosesau geothermal eraill fel ffynhonnau naturiol.
Nid oes cyflwr hylifol ganddo o dan wasgedd is na 5.1 atm, ond yn solid ar dymereddau'n is na -78 °C. Yn ei gyflwr solid, gelwir carbon deuocsid yn "iâ sych" yn gyffredinol.