Cyfundrefn Iechyd y Byd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Awdurdod dan y Cenhedloedd Unedig yw Cyfundrefn Iechyd y Byd (Ffrangeg: Organisation Mondiale de la Santé, OMS; Saesneg: World Health Organisation, WHO) sy'n cyfarwyddo a chyd-drefnu materion sy'n ymwenud ag iechyd ar draws y byd. Mae'n gyfrifol am roi arweiniaeth ar faterion iechyd byd-eang, gosod yr agenda ar gyfer ymchwil i iechyd, gosod safonau ac ymarferau, cynnig opsiynau polisi iechyd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, rhoi cefnogaeth dechnolegol i wledydd y byd a monitro ac asesu tueddiadau iechyd.[1]

Daeth CIB i fodolaeth ar ôl i'r syniad am gael cyfundrefn o'r fath gael ei godi pan ffurfiwyd y Cenhedloedd Unedig yn 1945. Sefydlwyd CIB ar y 7fed o Ebrill 1948, diwrnod a ddethlir bob blwyddyn fel Diwrnod Iechyd y Byd.[2]

Mae'r Gyfundrefn yn gweithio mewn sawl maes iechyd. Un o'i chyhoeddiadau pwysicaf yw'r Adroddiad ar Iechyd y Byd (World Health Report) a gyhoeddir yn flynyddol.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Rod of asclepius.png Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato