Cancr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Canser)
Neidio i: llywio, chwilio

Mae cancr yn grŵp o heintiau ble mae celloedd yn ymosodol (yn tyfu a rhannu yn rhy sydyn a chryf nes mynd yn rhemp drwy'r corff gan ymosod arno. Yn aml, gall chwalu drwy'r corff, drwy gyfrwng y lymff neu'r gwaed. Tyfu, ymosod a chwalu; dyma'r nodweddion sy'n eu gwahaniaethu oddi wrth y tiwmor. Gall rhai mathau o gancr greu tiwmor, ac eraill megis liwcemia yn peidio a gwneud hynny.

Y gangen honno o feddygaeth sy'n astudio, gwneud diagnosis, trin ac atal cancr ydyw oncoleg.

[golygu] Cancr mewn oedolion

Mae'r ystadegau a restrir isod ar gyfer oedolion yn yr Unol Daleithiau:

Dynion Merched
mwyaf cyffredin (yn ôl nifer o achosion) mwyaf cyffredin (yn ôl marwolaeth) mwyaf cyffredin (yn ôl nifer o achosion) mwyaf cyffredin (yn ôl marwolaeth)
cancr y prostad (33%) cancr yr ysgyfaint (31%) cancr y fron (32%) cancr yr ysgyfaint (27%)
cancr yr ysgyfaint (13%) cancr y prostad (10%) cancr yr ysgyfaint (12%) cancr y fron (15%)
cancr colorectaidd (10%) cancr colorectaidd (10%) cancr colorectaidd (11%) cancr colorectaidd (10%)
cancr y bledren (7%) cancr y pancreas (5%) cancr endometriaidd (6%) cancr ofaraidd (6%)
melanoma croenol (5%) liwcemia (4%) lymffoma ddi-Hodgkin (4%) cancr y pancreas (6%)

[golygu] Cancr mewn plant

Peth gymharol brin ydyw cancr mewn plant a glasoed: dim ond 150 achos ym mhob miliwn o blant. Dengys ystadegau'r 'National Cancer Institute' sydd wedi'i sefydlu yn UDA, fod yr achosion o gancr mewn plant wedi cynyddu bron i 20% rhwng 1975 a 1990, yn bennaf oherwydd y cynnydd mewn achosion o liwcemia. Ers 1990, mae'r niferoedd wedi lleihau ychydig.[1]

Mae'r plant sy'n byw ger atomfeydd niwclear yn fwy tebygol o gael cancr.[2]

[golygu] Cyfeiriadau

  1. Awduron: James G. Gurney, Malcolm A. Smith, Julie A. Ross (1999) Cancer Incidence and Survival among Children and Adolescents, United States SEER program 1975-1995, Cancer Statistics Branch, National Cancer Institute, a geir ar y wefan: SEER web site
  2. Reasonable Doubt: Children living near nuclear facilities face an increased risk of cancer.
Medistub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am feddygaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill