Diciâu
Clefyd a achosir gan deulu o facteria, yn enwedig Mycobacterium tuberculosis yw'r Diciâu. Hen enw ar y clefyd oedd y ddarfodedigaeth. Mae'n effeithio ar yr ysgyfaint yn bennaf, ond gall hefyd effeithio ar y system nerfau a rhannau eraill o'r corff.
Y prif symptomau yw peswch nodweddiadol, yn aml gyda gwaed yn y poer, grews uchel a cholli pwysau. Gall y clefyd ledaenu trwy'r aer, wrth i rai sy'n dioddef ohono besychu, tisian neu boeri. Yn y gorllewin, mae'r clefyd yn awr yn llawr llai cyffredin nag yn y gorffennol, ond mae'n parhau yn gyffredin mewn llawr rhan o'r Trydydd Byd.
Cyhoeddodd Robert Koch ei ddarganfyddiad mai Mycobacterium tuberculosis oedd yn achosi'r diciâu ar 24 Mawrth 1882.
Pobl enwog fu farw o'r Diciâu [golygu]
- Charlotte Brontë, Emily Brontë ac eraill o'r teulu
- Franz Kafka (llenor)
- George Orwell (llenor)
- Max Planck, gwyddonydd
- Igor Stravinsky (cyfansoddwr)
Diciâu mewn anifeiliaid [golygu]
Mae mycobacterium bovis yn achosi diciâu mewn gwartheg. Gall y clefyd gael ei gario gan anifeiliaid eraill. Yng Nghymru, roedd gan y Cynulliad gynllun i ddifa Moch daear o fewn ardal gyfyngedig fel arbrawf i weld a oedd hyn yn atal lledaeniad y clefyd ymysg gwartheg, ond bu rhaid rhoi'r gorau i'r cynllun yn dilyn dyfarniad llys yn Awst 2010.