Afiechyd meddwl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae afiechyd meddyliol neu salwch meddyliol yn batrwm ymddygiadol neu seicolegol a welir mewn unigolyn sydd yn achosi ing neu anabledd na ystyrir yn rhan o ddatblygiad neu ddiwylliant normal. Mae adnabyddiaeth a dealltwriaeth o anhwylderau meddyliol wedi newid dros amser a thros ddiwylliannau gwahanol. Amrywia'r diffiniadau, asesiadau a dosbarthiadau o anhwylderau meddyliol, ond ceir rhestr o feini prawf a restrir yn yr ICD, DSM a chyfeirlyfrau eraill a dderbynir gan bobl proffesiynol ym maes iechyd meddyliol. Mae'r categorïau hyn yn cynnwys anhwylderau tymer, anhwylderau pryder, anhwylderau seicotig, anhwylderau bwyta, anhwylderau datblygiadol, anhwylderau personoliaeth a chategorïau eraill. Mewn nifer o achosion, nid oes un achos pendant neu barhaus dros anhwylderau meddyliol.

Mae anhwylderau meddyliol yn gyffredin, gyda thraean o bobl yn y mwyafrif o wledydd yn ateb gofynion digon o'r meini prawf yn ystod rhyw gyfnod o'u bywydau. Lleolir gwasanaethau ar gyfer anhwylderau meddyliol mewn ysbytai neu yn y gymuned. Caiff anhwylderau meddyliol eu deiagnosio gan ddefnyddio methodoleg gwahanol, gan ddibynnu yn aml ar hanes y claf a chyfweliad. Dau opsiwn ar gyfer triniaeth yw moddion seicotherapi a seiciatrig, yn ogystal â hunan-gymorth a chefnogaeth ymyrrol. Gellir gorfodi triniaeth yn dibynnu ar ddeddfwriaeth gwlad. Gwelir nifer o ymgyrchoedd er mwyn newid safon gwasanaethau ac agweddau pobl at anhwylderau meddyliol.

Gweler hefyd[golygu]