Llau pen
Oddi ar Wicipedia
Pryfyn bach yw'r lleuen (lluosog: llau neu llau pen) a cheir dros 3,000 gwahanol fath ohonyn nhw. Er mai pryfaid ydyn nhw, tydyn nhw ddim yn medru hedfan. Mae tri math wedi eu cofrestru fel 'Asiant cario Afiechydon Dynol'. Ectoparaseit ydyn nhw sy'n hoff iawn o waed mamaliaid. Er hyn tydyn nhw ddim i'w gweld ar Monotremes (y platapws a'r echidnas) na'r ystlum, y morfil, dolffiniaid y llamhidydd na'r pangolin.