Clefyd y siwgr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Symbol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer clefyd y siwgr.

Anhwyldeb metabolig yw clefyd y siwgr, sy’n digwydd pan mae’r corff yn methu defnyddio’r siwgr sydd yn y gwaed. Heb ei reoli’n iawn, gall clefyd y siwgr arwain at glefyd y galon, clefyd yr arennau, dallineb, a niwed i bellafon y corff a achoswyd gan gylchrediad wan o waed. Ar y llaw arall, o gael eu trin a’u cefnogi’n iawn, gall pobl â chlefyd y siwgr fyw bywydau hir a llawn iawn.

Mae tua 93,000 o bobl Cymru’n gwybod bod clefyd y siwgr arnynt, ac mae’n debyg bod tua 40,000 o bobl eraill yn byw gyda’r cyflwr ond heb wybod hynny hyd yn hyn. Clefyd y siwgr a’i gymhlethdodau sy’n gyfrifol am 9% o gostau ysbytai Cymru. Mae'r elusen Diabetes UK yn cynorthwyo pobl sydd â'r clefyd.

Yn 2007 collodd y Cymro pybyr a'r cyn-chwaraewr rygbi Ray Gravell ei goes oherwydd y clefyd.

[golygu] Dolen allanol

Mwy o wybodaeth am glefyd y siwgr ar wefan Diabetes UK

Crystal Clear app virussafe.png Eginyn erthygl sydd uchod am feddygaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill