Niwmonia
| Niwmonia | |
| Dosbarthiad ac adnoddau allanol | |
Y bacteriwm Streptococcus pneumoniae, sydd wrth wraidd yr haint hwn fel arfer, wedi ei weld drwy feicrosgop electron. |
|
| ICD-10 | J12., J13., J14., J15., J16., J17., J18., P23. |
|---|---|
| ICD-9 | 480-486, 770.0 |
| DiseasesDB | 10166 |
| MedlinePlus | 000678 |
| eMedicine | topic list |
| MeSH | [1] |
Llid heintiol sy'n effeithio'r ysgyfaint yw niwmonia. [1] Mae'n effeithio ar y codenni aer bach (alfeoli) lle mae ocsigen yn mynd i mewn i’r gwaed a charbon deuocsid yn dod allan. Gall pob un o'r canlynol ei achosi: bacteria, feirws, ffwng, paraseit, cemegolion neu niwed corfforol.
Mae'n afiechyd eitha cyffredin ac mae'n achosi marwolaeth yn yr henoed, plant dan 5 oed neu'r gwan a'r llesg ledled y byd.[2]
Ceir brechiadau ar gyfer rhai mathau o niwmonia. Mae prognosis y claf, fodd bynnag, yn dibynnu ar math o niwmonia mae wedi ei ddal. Mae hefyd yn dibynnu ar y driniaeth, unrhyw gymhlethdodau ac iechyd cyffredinol y claf.
Cynnwys |
Symtomau [golygu]
Fel rheol [golygu]
Fel rheol, gall gymryd rhwng diwrnod i ddau ddiwrnod i'r symtomau ymddangos. Mae niwmonia'n peri i'r claf beswch, mae'r llid hwn hefyd yn ei gwneud yn anoddach i chi anadlu (dyspnoea) ac mae'r corff yn ei chael hi'n anodd i amsugno ocsigen i fewn i'r corff, felly fe allwch fynd yn fyr eich gwynt. Gellir wrth y symtomau hyn hefyd:
- yr anadlu'n troi'n wichian
- fflem (miwcws trwchus)
- chwysu a chrynu a hyd yn oed twymyn (pobl ifanc fel arfer)
- colli awydd bwyd
- poen yn y frest
- teimlo'n sâl yn gyffredinol
Yn bur anaml [golygu]
Mae'r symptomau canlynol yn llai cyffredin:
- pesychu gwaed (hemoptysis)
- blinder
- cyfogi
- cur pen
- poen cyffredinol yn y cymalau
Symtomau difrifol [golygu]
- eich croen yn troi'n llwyd neu'n las (''cyanosis'')
- teimlo'n ddryslyd a digyfeiriad
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Nodyn:EMedicineDictionary
- ↑ Cyfundrefn Iechyd y Byd: "Global causes of under 5 mortality." http://www.who.int/entity/child_adolescent_health/media/causes_death_u5_neonates_2004.pdf.