Liwcemia
Cancr neu gansar o'r gwaed ydy liwcemia (Groeg: λευκός leukemia, (neu lwcimia)sef "gwyn" fel y gair 'lleu'ad neu 'go-leu' a αίμα yn golygu "gwaed" h.y. "gwaed gwyn"). Cansar o'r gwaed neu'r mêr (lle mae'r gwaed yn cael ei gynhyrchu) ydyw. Fel arfer, yn y celloed gwaed gwyn (neu 'leukocytes') mae'r broblem. Mae'r term liwcemia'n derm eang am sawl math o gansar.
Dosbarthiad [golygu]
Yn glinigol ac yn batholegol, dosberthir y gwahanol fathau o gansar i ddau grŵp, gwyllt a cronig:
- liwcemia gwyllt ('acute leukemia'): yr hyn sy'n nodweddiol o'r math hwn yw'r cynnydd aruthrol o un math o gelloedd gwaed gwyn (e.e. lymffoblasts) sydd yn eu tro yn cymryd lle'r mathau (iach) eraill megis y celloedd coch neu'r platennau. Gall ddigwydd mewn babis, plant ac oedolion ifanc. Mae angen triniaeth cynnar a sydyn i drin liwcemia gwyllt gan fod y celloedd gwyllt yn gor-dyfu mor sydyn gan ymuno â llif y gwaed a lledaenu drwy organau'r corff. Fe allent, hyd yn oed, deithio i fyny'r asgwrn cefn ac i'r ymennydd.
- liwcemia cronig: mae'r math hwn yn gweithio'n ddistaw dros gyfnod o fisoedd neu flynyddoedd i ddatblygu. Unwaith eto, mae'r celloedd gwyn abnormal yn cael eu gor-gynhyrchu. Mewn pobol hŷn, fel arfer, y digwydd y ffurf cronig o'r afiechyd. Does dim cymaint o frys i drin y math hwn (yn wahanol i liwcemia gwyllt) er mwyn monitro'r claf a theilwrio'r driniaeth ar gyfer y claf.
Yr ail ddull o ddosbarthu liwcemia ydyw drwy edrych ar y celloedd eu hunain: sut fath o gelloedd ydy'r rhai drwg? Ceir dau fath o gelloedd gwyn drwg: liwcemia lymffoblastig (lymffoblastig neu lymffocytic) a liwcemia myeloid neu myelogenous.
- mewn liwcemia lymffoblastig (lymffoblastig neu lymffocytic) mae'r addasu cancraidd yn digwydd o fewn y mêr sydd fel arfer yn creu lymffosites.
- mewn liwcemia myeloid neu myelogenous, mae'r addasu cancraidd yn digwydd mewn math o gelloedd mêr sydd fel arfer yn creu celloedd coch, gwyn neu blatennau.
Drwy uno'r ddwy ffordd uchod o ddosbarthu fe ddown at bedwar categori:
| Math o gelloedd | Gwyllt | Cronig |
|---|---|---|
| Liwcemia Lymffoblastig) | Liwcemia lymffoblastig gwyllt | Liwcemia lymffoblastig cronig |
| Liwcemia Myelogenous (hefyd "myeloid" neu "nonlymffocytig") |
Liwcemia myeloid gwyllt | Liwcemia myelogenous cronig |