Ysmygu

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sigaret wedi'i rolio.
Offer ysmygu.

Arferiad yw ysmygu lle mae rhywbeth, gan amlaf tobaco, yn cael ei losgi a'r mwg yn cael ei flasu neu'i anadlu. Caiff hyn ei wneud gan amlaf am fod y broses o losgi yn rhyddhau'r cyffur sydd yn yr hyn sy'n cael ei ysmygu e.e. nicotîn ac yna cânt eu cymryd i mewn i'r corff trwy'r ysgyfaint. Mae ysmygu hefyd yn medru bod yn rhan o ddefodau, er mwyn achosi trans a rhyddhad ysbrydol. Y dyddiau yma, ysmygu sigarennau sydd naill ai wedi'u creu yn ddiwydiannol neu wedi'u rholio gan law sydd fwyaf cyffredin. Mae ffyrdd eraill o ysmygu yn cynnwys pibau, sigars, hookahs a bongs er nad yw rhain mor gyffredin.

Gweler hefyd [golygu]

Rod of asclepius.png Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato


Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Ysmygu
yn Wiciadur.