Iselder ysbryd

Oddi ar Wicipedia
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
Paentiad olew gan Vincent van Gogh sy'n dwyn yr enw At Eternity's Gate

Mae iselder ysbryd yn afiechyd meddwl ble mae'r claf yn teimlo'n isel a di-hwyl; yn aml, mae'r afiechyd hwn hefyd yn gwneud iddo deimlo'n wael a dihyder, gan golli diddordeb yn y pethau sydd, fel arfer, yn ei gyffroi.

Yn 1980 gwahaniaethodd Cymdeithas Seiciatreg America ("American Psychiatric Association") rhwng iselder ysbryd dros dro (sef mental depression) ac iselder ysbryd dwys (Sa: Major depressive disorder) yn eu cyfrol "Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (DSM-III) Classification". Mae iselder ysbryd dwys yn medru analluogi, neu dynnu'r gallu arferol i gyflawni pethau oddi wrth y claf. Gall hyn effeithio teulu'r claf yn drychinebus, a'i waith neu addysg, ei gwsg, yr hyn mae'n ei fwyta a'i iechyd yn gyffredinol. Yn yr Unol Daleithiau, mae 3.4% o'r bobl hynny sydd gan iselder ysbryd dwys yn cyflawni hunanladdiad ac mae gan 60% o'r bobl hynny sy'n cyflawni hunanladdiad iselder ysbryd ar ryw raddfa. Mae sawl astudiaeth wyddonol wedi dod o hyd i gydberthyniadau ystadegol rhwng iselder a rhai plaladdwyr amaethyddol.[1] ]

Triniaeth[golygu | golygu cod]

Mae sawl triniaeth posibl; gellir eu grwpio'n ddau: sef yr hyn mae meddygaeth gonfensiynol yn ei gynnig drwy'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), ysbytai, meddygon ayb ar y naill law a meddyginiaeth amgen ar y llaw arall. Dengys ymchwil diweddar fod gan ymarfer corff le pwysig i chwarae yng ngwellâd y driniaeth.

Triniaeth gonfensiynol[golygu | golygu cod]

Dyma'r driniaeth arferol, sef darparu meddygaeth gonfensiynol drwy'r GIG, ysbytai, meddygon ayb a cheir tri math gwahanol. Fel ymwelydd dyddiol y darperir y feddyginiaeth fel arfer ond gall y claf gael triniaeth fel 'inpatient' os oes perygl iddo niweidio ei hun neu eraill.

Seicotherapi[golygu | golygu cod]

Seicotherapi yw'r driniaeth a awgrymir fynychaf, a'r hyn mae'r claf yn ei ddewis fynychaf.

Meddyginiaeth[golygu | golygu cod]

Mae defnyddio "antidepressants" mor effeithiol â seicotherapi, bellach, er bod mwy o gleifion yn rhoi gorau i gymryd meddyginiaeth na sydd o gleifion yn rhoi gorau i seicotherapi, fel arfer oherwydd sgil-effeithiau.

Therapi "electroconvulsive"[golygu | golygu cod]

Pan nad oes dim arall yn gweithio, dyma'r gobaith olaf, neu'r driniaeth olaf i rai cleifion.

Triniaeth amgen[golygu | golygu cod]

Meddyginiaeth amgen[golygu | golygu cod]

Tybir fod rhai planhigion yn medru cynorthwyo'r claf; mae'r rhain yn cynnwys: lafant, saets y waun a jasmin.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gweler dolen 'Scientific articles' ar wefan Associazione per Far Conoscere Alcuni Danni dei Pesticidi Agricoli (erthyglau yn Saesneg)