Vincent van Gogh

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Vincent van Gogh
VanGogh 1887 Selbstbildnis.jpg
Ganwyd 30 Mawrth 1853
Zundert, Yr Iseldiroedd
Bu farw 29 Gorffennaf 1890
Auvers-sur-Oise, Ffrainc
Yn enwog am Noson Serenog
Blodau'r Haul
Galwedigaeth Peintiwr
Mae ei gyfres o luniau o flodau'r haul ymysg ei waith enwocaf

Arlunydd o'r Iseldiroedd oedd Vincent Willem van Gogh (30 Mawrth 1853 - 29 Gorffennaf 1890) (Ynganiad: Loudspeaker.svg ˈvɪnsɛnt vɑn ˈɣɔx ?/i ). Roedd yn un o'r Ôl-argraffiadwyr, ac mae'n un o'r artistiaid enwocaf erioed.

Fe'i ganwyd yn Zundert ar y degfed ar hugain o Fawrth, 1853, a bu farw ar y nawfed ar hugain o Orffennaf, 1890 yn Auvers-sur-Oise.

Yn ddyn ifanc, bu'n fasnachwr celf, yn athro, ac yna'n bregethwr - ond ni fu'n llwyddiannus iawn yn yr un o'r meysydd hyn.

Ym 1880 y cychwynnodd ar ei yrfa fel arlunydd, ag yntau'n 27 oed. Un o'r pethau a'i symbylodd i ddechrau arlunio oedd anogaeth ei frawd Theo, a oedd yn werthwr gwaith celf llwyddiannus ym Mharis ar y pryd. Theo oedd un o'r ychydig rai a gredai yn ei athrylith, a bu'n anfon deunyddiau peintio ac arian at ei frawd mawr yn fisol o'r cyfnod hwnnw ymlaen. Yn ystod ei fywyd ysgrifennodd Vincent lawer o lythyrau at Theo, a chadwodd Theo bob un ohonynt; cawsant eu cyhoeddi ym 1914.


Salwch meddwl[golygu]

Roedd rhyw fath o salwch meddwl arno. Yn ystod un o'i byliau, torrodd labed ei glust i ffwrdd. Dirywiodd ei gyflwr meddyliol tua diwedd ei oes. Ar y seithfed ar hugain o Orffennaf 1890, fe'i saethodd ei hun yn ei frest.

Bu farw yn ei wely ddeuddydd yn ddiweddarach, a Theo ei frawd wrth erchwyn ei wely. Roedd Theo wedi ceisio codi ei galon bod dyddiau gwell i dddod, ond geiriau olaf Vincent cyn marw oedd "La tristesse durera toujours" (fe bery'r tristwch am byth).

Gwaith[golygu]

Cynhyrchodd Vincent ei holl waith, dros 2000 o weithiau i gyd gan gynnwys paentiadau a brasluniau, mewn deng mlynedd (tua 900 o beintiadau a thua 1100 o ddarluniau a brasluniau). I gychwyn, roedd ei luniau'n dywyll eu lliw, nes iddo ddarganfod gwaith yr argraffiadwyr ym Mharis. Daw mwyafrif ei luniau enwocaf o ddwy flynedd olaf ei fywyd, a gwnaeth 90 o luniau yn y deufis olaf. Roedd ei enwogrwydd wedi tyfu'n raddol ers ei arddangosfeydd cyntaf o 1880 ymlaen, ac wedi ei farwolaeth bu arddangosfeydd coffa iddo ym mhrif ddinasoedd Ewrop.

Dylanwad[golygu]

Bu ei ddylanwad ar gelf yr ugeinfed ganrif yn enfawr, yn arbennig artistiaid mynegiadol (expressionist) ac arlunwyr 'Fauve'. Erbyn hyn, mae ei waith ymysg y gwaith celf enwocaf, y mwyaf poblogaidd a'r drytaf erioed.

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: