Paul Gauguin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Paul Gauguin
Paul Gauguin 111.jpg
Hunanbortread, 1893, Amgeuddfa Orsay
Ganwyd 7 Mehefin, 1848
Paris
Bu farw 9 Mai, 1903
Polynesia Ffrengig
Yn enwog am Ôl-argraffiadaeth
(Post Impressionism)
Primitivisme
Galwedigaeth Arlunydd

Arlunydd ôl-argraffiadol Ffrengig oedd Eugène Henri Paul Gauguin (7 Mehefin 1848 – 8 Mai 1903). Heb fod yn adnabyddus yn ystod ei fywyd, fe'i gydnabuwyd yn ddiweddarach am ei ddefnydd mentrus o liw ac am herio syniadaeth celf Ewropeaidd gyfoes tra'n gweithio yn y Caribî ac Ynys Tahiti.[1]

Bu'n ddylanwad mawr ar y genhedlaeth ganlynol o arlunwyr fel Henri Matisse, Pablo Picasso a Georges Braque a mudiadau fel Fauve ac Mynegiadaeth Almaeneg (German Expressionism).

Bywyd cynnar[golygu]

Ganwyd i deulu rhyddfrydol a bu rhaid iddynt ddianc i Peru ym 1851 wedi Coup d'etat Napoleón III pan roedd Paul ond yn 18 mis oed. Pan ddychwelon i Ffrainc fe'i astudiodd yn yr ysgol yn Orleans rhwng 1859 a 1865 cyn fynd yn forwr yn 17 oed.

Ym 1870 aeth i weithio yn y cyfnewidfa stoc ym Mharis ble fu'n dra lwyddiannus. Priododd â merch o Ddenmarc, Mette-Sophie Gad, y cwpl yn cael pump o blant ac yn byw bywyd bourgeois, cyffyrddus.[1]

Dechreuodd Gauguin ymddiddori yn y byd celf, yn arbennig gwaith Argraffiadaeth (Ffrangeg: Impressionnisme) a oedd yn arddull newydd cyffroes ym Mharis y cyfnod. Dechreuodd Gauguin wersi peintio gan arddangos gyda'r impressionnistes ac fe ddaeth i adnabod yr arlunwyr Manet, Cézanne, Monet a Camille Pissarro.[1]

Yn 1882, fe'i gadawodd ei swydd i fod yn arlunydd llawn amser gan achosi problemau ariannol difrifol i'w deulu. Bu rhaid iddynt symud i fwy yng Copenhagen at deulu ei wraig cyn i Gauguin gadael ei wraig a phlant yn llwyr i ddychwelyd i Ffrainc i beintio.

Peintiwr[golygu]

Bu ei brofiad o fyw fel plentyn yn ne America a'i deithiau fel morwr yn ddylanwad mawr arno ac ym 1887 fe aeth i fyw ym Panama gan symud ymlaen i Ynys Martinique yn y Caribî.

Datblygodd Gauguin ymhellach ei arbrofion gyda lliwiau gan geisio adlewyrchu lliwiau llachar natur drofannol a chyfleu symbolaeth bywyd “cyntefig” y brodorion.

Roedd syniadau rhamantaidd o ddianc rhag “gwareiddiad” dinasoedd budron i fywyd mwy naturiol ymhlith pobloedd a ystyriwyd yn “gyntefig” yn ennyn poblogrwydd ymhlith llawer o ysgrifenwyr ac arlunwyr Ewropeaidd y cyfnod. Roedd diddordeb mawr yng nghelf pobloedd “egsotig” frodorol Affrica ac Asia gyda masciau, cherfluniau a phrintiau'n cael eu cludo yn ôl i Ewrop wedi i'r Ewropeaidd cipio a choloneiddio eu tiroedd. Yn ddiweddarach adnabyddir Gauguin un o brif artistiaid y symudiad celfyddydol Primitivisme y cyfnod.

Pan ddychwelodd i Ewrop bu'n byw gyda grŵp o arlunwyr arbrofol ym Mhont Aven, Llydaw rhwng 1886 a 1891. Ym 1888 peintiodd gyda Vincent van Gogh ond arweiniodd eu cyfeillgarwch i ddadl gyda chyllell rhwng y ddau.[2]

Ym 1891 hwyliodd Gaugain i Ynys Tahiti ac wedyn ynysoedd eraill Polynesia i ddianc “popeth sydd yn ffug ac yn gonfensiynol”[3]. Yno fe greodd rhai o'i luniau a cherfluniau mwyaf adnabyddus.[1]

Yn dilyn rhai blynyddoedd hapus ym Mholynesia cafodd amseroedd anodd - yn sâl gyda syffilis a heb arian. Cafodd problemau gydag awdurdodau coloneiddiol Ffrangeg am ddadlau o blaid y bobl frodorol yr ynysoedd. Bu farw yn 1903.[4]

Mae awydd Gauguin i ddarganfod delfryd amhosb ymhlith natur a bywyd pobl werin frodorol “syml ac egsotig” wedi'i feirniadu yn ddiweddarach fel esiamplau o agwedd hiliol a rhagfarnllyd pobl Ewropeaidd y cyfnod, yn arbennig y modd ecsbloetiodd Gauguin ferched ifanc Iawn am ei chwant rhywiol.[5][6]

Gwaith Gauguin[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 http://www.biography.com/people/paul-gauguin-9307741
  2. http://www.metmuseum.org/toah/hd/gaug/hd_gaug.htm
  3. "The painter who invented his own brand of artistic license," Arifa Akbar, The Independent, 20 April 2010.
  4. http://www.gauguingallery.com/gauguins-health.aspx
  5. According to postmodern critics, it was primarily the cultures of Africa and the Oceanic islands that provided artists an answer to what these critics call their "white, Western, and preponderantly male quest" for the "elusive ideal" of the primitive, "whose very condition of desirability resides in some form of distance and difference." See Solomon-Godeau 1986, p. 314.
  6. Diamond, S: In Search of the Primitive, (New Brunswick: Transaction Publishers, 1974)