Hokusai

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hokusai.

Roedd Katsushika Hokusai, (葛飾北斎), (1760 - 18 Ebrill 1849) yn un o arlunwyr ukiyo-e amlycaf y Cyfnod Edo yn Japan. Fe'i ystyrir yn un o feistri mawr yr ysgol arlunio Ukiyo-e.

Ganed ef yn Edo (yn awr Tokyo); ei enw pan yn blentyn oedd Tokitarō. Yn 14 oed aeth yn brentis i gerfiwr coed, yna yn 18 oed daeth yn ddisgybl yn stiwdio Katsukawa Shunshō, pennaeth Ysgol Katsukawa.

Bu Hokusai yn gweithio fel arlunydd am gyfnod hir, ond cynhyrchodd ei waith gorau wedi iddo basio 60 oed. Ei waith enwocaf yw'r gyfres ukiyo-e 36 Golygfa ar Fynydd Fuji (富嶽三十六景 Fugaku Sanjūrokkei), a greodd rhwng 1826 a 1833. Mae'n cynnwys llun enwocaf Hokusai, Y Don Fawr ger Kanagawa, un o'r lluniau mwyaf adnabyddus yn y byd. Roedd Mynydd Fuji yn ymddangos yn gyson yn ei luniau.

Un o'i weithiau erotig enwocaf yw'r darlun Breuddwyd Gwraig y Pysgotwr, sy'n perthyn i'r arddull shunga.

Y Don Fawr ger Kanagawa.

[golygu] Dolen allanol

[golygu] Gweler hefyd

Torii of Itsukushima.png Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill