36 Golygfa ar Fynydd Fuji
Cyfres o brintiadau bloc pren ukiyo-e yw Tri deg chwech Golygfa ar Fynydd Fuji (Siapaneg: 富嶽三十六景, Fugaku Sanjūrokkei) gan yr arlunydd Siapaneaidd Katsushika Hokusai (1760–1849). Mae'r gyfres yn darlunio Mynydd Fuji, ar ynys Honshu, Siapan, trwy'r tymhorau ac mewn tywydd amrywiol o sawl lleoliad a phellter. Heddiw mae'n cynnwys 46 print mewn gwirionedd, a grewyd gan Hokusai rhwng 1826 a 1833. Cafwyd 36 yn y cyhoeddiad gwreiddiol ond, am iddi fod yn gymaint o lwyddiant, ychwanegwyd deg arall yn nes ymlaen.
Cynnwys |
Cefndir [golygu]
Roedd printiau a darluniau o olygfeydd ar Fynydd Fuji yn destun poblogaidd gan artistiaid ukiyo-e. 36 Golygfa Hokusai yw'r enwocaf o lawer ond ceir sawl cyfres arall, yn cynnwys y gwaith o'r un enw gan Hiroshige a chyfres diweddarach gan Hokusai ei hun, sef Cant Golygfa ar Fynydd Fuji. Yn ogystal ceir nifer o brintiadau a lluniau unigol. Mae gan Fynydd Fuji lle arbennig yn niwylliant a chrefydd Siapan a dyna pam roedd yn denu cymaint o arlunwyr. Credid fod duwies wedi rhoi 'moddion bywyd' ar gopa'r mynydd ac roedd y Siapaneaid yn ystyried fod cyfrinach tragwyddoldeb ynghlwm wrth Fuji, sy'n esbonio obsesiwn Hokusai ac eraill gyda'r mynydd, efallai.
Printiadau [golygu]
Y 36 gwreiddiol [golygu]
| Rh. | Delwedd | Teitl Cymraeg | Teitl Siapaneg |
|---|---|---|---|
| 1 | Y Don Fawr oddi ar Kanagawa | 神奈川沖浪裏
Kanagawa oki nami-ura |
|
| 2 | Gwynt deheuol, awyr las (Fuji Coch) | 凱風快晴
Gaifū kaisei |
|
| 3 | Storm glaw islaw'r copa | 山下白雨
Sanka hakū |
|
| 4 | Dan Bont Mannen yn Fukagawa | 深川万年橋下
Fukagawa Mannen-bashi shita |
|
| 5 | Sundai, Edo | 東都駿台
Tōto sundai |
|
| 6 | Aoyama Enza no Matsu | 青山円座松
Aoyama enza-no-matsu |
|
| 7 | Senju, Musashi | 武州千住
Bushū Senju |
|
| 8 | Bwlch Inume, Kōshū | 甲州犬目峠
Kōshū inume-tōge |
|
| 9 | Golygfa ar Fiji, Talaith Owari | 尾州不二見原
Bishū Fujimigahara |
|
| 10 | Ejiri, Talaith Suruga | 駿州江尻
Sunshū Ejiri |
|
| 11 | Siop Mitsui yn Suruga, yn Edo | 江都駿河町三井見世略図
Kōto Suruga-cho Mitsui Miseryakuzu |
|
| 12 | Machlud dros Bont Ryōgoku o lan afon Sumida yn Onmayagashi | 御厩川岸より両国橋夕陽見
Ommayagashi yori ryōgoku-bashi yūhi mi |
|
| 13 | Neuadd Sazai - Teml y Pum Cant Rakan | 五百らかん寺さざゐどう
Gohyaku-rakanji Sazaidō |
|
| 14 | Tŷ te yn Koishikawa ar ôl bwrw eira | 礫川雪の旦
Koishikawa yuki no ashita |
|
| 15 | Shimomeguro | 下目黒
Shimo-Meguro |
|
| 16 | Rhaeadr yn Onden | 隠田の水車
Onden no suisha |
|
| 17 | Enoshima yn nhalaith Sagami | 相州江の島
Soshū Enoshima |
|
| 18 | Glan Bae Tago, Ejiri yn Tōkaidō | 東海道江尻田子の浦略図
Tōkaidō Ejiri tago-no-ura |
|
| 19 | Yoshida, Tōkaidō | 東海道吉田
Tōkaidō Yoshida |
|
| 20 | Llwybr môr talaith Kazusa | 上総の海路
Kazusa no kairo |
|
| 21 | Pont Nihonbashi yn Edo | 江戸日本橋
Edo Nihon-bashi |
|
| 22 | Tref dollborth ar Afon Sumida | 隅田川関屋の里
Sumidagawa Sekiya no sato |
|
| 23 | Bae Noboto | 登戸浦
Noboto-ura |
|
| 24 | Llyn Hakone yn nhalaith Sagami | 相州箱根湖水
Sōshū Hakone kosui |
|
| 25 | Dal adlewyrchiad Mynydd Fuji yn Llyn Kawaguchi, o Fwlch Misaka yn nhalaith Kai | 甲州三坂水面
Kōshū Misaka suimen |
|
| 26 | Hodogaya ar Ffordd Tōkaidō | 東海道保ケ谷
Tōkaidō Hodogaya |
|
| 27 | Afon Tama ym Musashi | 武州玉川
Bushū Tamagawa |
|
| 28 | Teml Asakusa Hongan-ji ym mhrifddinas y dwyrain (Edo) | 東都浅草本願寺
Tōto Asakusa honganji |
|
| 29 | Ynys Tsukuda ym Musashi | 武陽佃島
Buyō Tsukuda-jima |
|
| 30 | Traeth Shichiri yn Sagami | 相州七里浜
Soshū Shichiri-ga-hama |
|
| 31 | Umegawa yn Sagami | 相州梅沢庄
Soshū umezawanoshō |
|
| 32 | Kajikazawa yn nhalaith Kai | 甲州石班沢
Kōshū Kajikazawa |
|
| 33 | Bwlch Mishima Pass yn nhalaith Kai | 甲州三嶌越
Kōshū Mishima-goe |
|
| 34 | Mynydd Fuji o fynyddoedd Tōtōmi | 遠江山中
Tōtōmi sanchū |
|
| 35 | Llyn Suwa yn nhalaith Shinano | 信州諏訪湖
Shinshū Suwa-ko |
|
| 36 | Ushibori yn nhalaith Hitachi | 常州牛掘
Jōshū Ushibori |
Y 10 ychwanegol [golygu]
| Rh. | Delwedd | Teitl Cymraeg | Teitl Siapaneg |
|---|---|---|---|
| 1 | Bryn Goten-yama, Shinagawa, ar ffordd y Tōkaidō | 東海道品川御殿山の不二
Tōkaidō Shinagawa Goten'yama no Fuji |
|
| 2 | Honjo Tatekawa, iard coed Honjo | 本所立川
Honjo Tatekawa |
|
| 3 | Ardal bleser Senju | 従千住花街眺望の不二
Senju Hana-machi Yori Chōbō no Fuji |
|
| 4 | Nakahara yn nhalaith Sagami | 相州仲原
Sōshū Nakahara |
|
| 5 | Ōno Shinden yn Suruga | 駿州大野新田
Sunshū Ōno-shinden |
|
| 6 | Dringo ar Fuji | 諸人登山
Shojin tozan |
|
| 7 | Planhigfa te Katakura, Suruga | 駿州片倉茶園の不二
Sunshū Katakura chaen no Fuji |
|
| 8 | Fuji o Kanaya ar y Tōkaidō | 東海道金谷の不二
Tōkaidō Kanaya no Fuji |
|
| 9 | Y wawr yn Isawa, talaith Kai | 甲州伊沢暁
Kōshū Isawa no Akatsuki |
|
| 10 | Cefn Fuji o afon Minobu | 身延川裏不二
Minobu-gawa ura Fuji |
Llyfryddiaeth [golygu]
- Nagata, Seiji (1999). Hokusai: Genius of the Japanese Ukiyo-e. Kodansha, Tokyo.
- Smith, Henry D. II (1988). Hokusai: One Hundred Views of Mt. Fuji. George Braziller, Inc., Publishers, Efrog Newydd. ISBN 0807611956.
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Hokusai: 36 Golygfa ar Fynydd Fuji
- (Saesneg) Bywgraffiad Hokusai
- (Japaneg) 葛飾北斎の富士山・富嶽三十六景