Cwsg

Oddi ar Wicipedia
Dau gyfaill yn cysgu yng Nghyffylliog oddeutu 1885; Llun: John Thomas.

Cyflwr anymwybodolrwydd naturiol yw cwsg; y gwrthwyneb i'r cyflwr o fod yn effro neu ar ddi-hun.

Digwydd cwsg arferol mewn pedair rhan olynol sy'n amrywio yn eu dyfnder. Mae gweithgaredd trydanol yr ymenydd yn parhau ond yn troi'n fwy rhythmaidd nag yn y cyflwr effro ac yn llai agored i stimuli allanol.

Plentyn yn cysgu

O bryd i'w gilydd torrir ar gwsg arferol gan gyfnodau o gwsg paradocsaidd sy'n peri i'r llygaid symyd yn gyflym ac i'r ymenydd fod yn fwy gweithgar er bod y cyhyrau yn fwy ymlaciedig nag yn ystod cwsg arferol. Cysylltir cwsg paradocsaidd â breuddwydion yn neilltuol.

Mae rhaid wrth gwsg yn fiolegol. Ymddengys fod cwsg yn angenrheidiol er mwyn rheoli tyfiant corfforol; mae anghenion unigolion yn amrywio'n fawr o tua tair i ddeg awr y nos. Achosir anhunedd (insomnia) gan newid arferion, pryder, iselder a chyffuriau neu feddyginiaethau.

Mae anhwyldebau cwsg yn cynnwys cerdded yn eich cwsg a hunllefau.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am cwsg
yn Wiciadur.