Y meddwl

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Darlun gan Robert Fludd, Utriusque cosmi maioris scilicet et minoris […] historia, tomus II (1619), tractatus I, sectio I, liber X, De triplici animae in corpore visione.

Y meddwl yw'r broses a'r fan lle mae bodau dynol a rhai anifeiliaid eraill yn ymwneud â deallusrwydd, ymwybyddiaeth, meddyliau, cof, emosiwn, yr ewyllys a'r dychymyg. Mae hefyd yn ymwneud â'r prosesau o resymu a gall hyd yn oed weithredu pan rydym yn anymwybodol neu'n cysgu.

Ceir damcaniaethau rif y gwlith amdano, ei fodolaeth a sut mae'n gweithio. Ymhlith y cyntaf i'w drafod y mae, Zoroaster, Gotama Bwdha, Platon, Aristotlys, Adi Shankara ac athronwyr eraill o Wlad Groeg, India ac yna'r gwledydd Islamaidd.

Roedd llawer o'r damcaniaethau cyn hynny yn deillio o weithiau crefyddol ac yn ymwneud â'r berthynas rhwng y meddwl â'r enaid.

Mae pa bridoleddau ddylid eu cynnwys o dan y term "y mewddwl" yn cael eu trafod yn aml. Dywed rhai seicolegwyr mai dim ond ffwythiannau deallusol uchaf ddylid cael eu hystyried, yn enwedig rheswm a'r gallu i gofio. Mae nhw'n gwrthod priodoleddau megis cariad neu serch, casineb, ofn a hapusrwydd gan ddweud mai emosiynau cyntefig ydy'r rhain ac yn faes ar wahân i'r meddwl. Dywed eraill fod emosiwn a rheswm yn rhan o'r meddwl ac yn ddi-wahân, a'u bônt o'r un anian a natur ac yn deillio o'r un lle.

Gweler hefyd[golygu]