Enaid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Yr enaid yw'r rhan ysbrydol o ddyn neu ddynes sy'n teimlo, deall, cofio ac amgyffred (mewn gwrthgyferbyniad â'r materol). Mae'r gred yn yr enaid yn hynafol iawn — fe'i ceir yng nghrefydd Yr Hen Aifft er enghraifft — ond fe'i cysylltir yn bennaf heddiw ag athrawiaethau'r crefyddau mawr sefydledig, sef Iddewiaeth, Cristnogaeth, Islam, Hindwaeth a Bwdhaeth, er bod yr ystyr yn amrywio, yn arbennig yn achos y ddwy olaf.

Credir fod gan yr enaid fodolaeth annibynnol ar y corff a'i fod yn bodoli mewn rhyw ffurf neu'i gilydd ar ôl marwolaeth.

Mae eiconiaeth Cristnogaeth yn ei ddarlunio'n aml fel baban newydd-anedig yn cael ei gludo i fyny i'r Nefoedd neu wedi'i lapio mewn llian, sy'n cynryhcioli mynwes Abraham. Yn yr Eglwys Fore mae'r gloyn byw yn ei gynrychioli, fel a welir yn y paentiadau gan Gristnogion cynnar ar furiau'r catacombs, er enghraifft (benthyciad o fytholeg Roeg a'r traddodiad Clasurol). Er bod enaid yn debyg i ysbryd, mae'r Beibl yn gwahaniaethu rhyngddynt (yn y llythyr at y Hebreaid).

Gweler hefyd[golygu]

Religion template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.



Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am enaid
yn Wiciadur.